Gwahoddir perchnogion eiddo manwerthu ac eiddo masnachol i wneud cais am grant newydd sydd wedi ei ddylunio i gynorthwyo gydag adfywio canol dinas Wrecsam.
Bydd Cyngor Wrecsam yn defnyddio £157,000 o gyllid Trawsnewid Trefi i gynnig grantiau o hyd at £30,000 i wella tu blaen adeiladau a dod â defnydd yn ôl i ofodau masnachol gwag.
Mae Trawsnewid Trefi yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ei ddylunio i gynorthwyo gydag adfywio canol trefi, gan sicrhau eu bod yn parhau i chwarae rôl allweddol mewn economïau a chymunedau lleol.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Wrecsam, a bydd y grantiau hyn o gymorth i adfywio a gwella eiddo yng nghanol y ddinas.
“Byddwn yn annog perchnogion a lesddeiliaid cymwys i wneud cais am y cyllid hwn, a chynorthwyo i ddod â bywyd newydd i’w hadeiladau.
“Wrecsam yw dinas fwyaf newydd Cymru, ac mae’n bwysig bod canol ein dinas yn fywiog a chyffrous.”
Pwy all wneud cais?
Mae grantiau ar gael ar gyfer perchnogion eiddo manwerthu ac eiddo masnachol sydd â safleoedd yng nghanol y ddinas.
Croesewir ceisiadau hefyd gan lesddeiliaid sydd â saith mlynedd neu fwy ar ôl ar eu tenantiaeth, ac sydd wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord i wneud y gwelliannau arfaethedig.
Ar gyfer beth ellir defnyddio’r cyllid?
Gellir defnyddio’r arian yma i gynorthwyo gydag ariannu gwaith allanol i du blaen adeiladau, gan gynnwys:
- Blaen siopau
- Gwella ffenestri arddangos
- Gwella arwyddion
- Ffenestri a drysau
- Toeau a simneiau
- Rendro a gwaith strwythurol
Gall gwaith mewnol – a gwelliannau i effeithlonrwydd ynni (e.e. gwella’r inswleiddio) – fod yn gymwys hefyd, ochr yn ochr â phecyn cynhwysfawr o welliannau allanol.
Rhaid i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn 28 Chwefror 2024.
Mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais ar wefan Cyngor Wrecsam. Transforming Towns Property Development Grant | Wrexham County Borough Council
Adferiad Economaidd
Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: “Drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi rydym yn darparu £157,000 i roi mwy o hwb i adferiad economaidd a chymdeithasol canol ein trefi a’n dinasoedd ledled Cymru.
“Mae ein polisi o roi Canol Trefi yn Gyntaf, sydd wedi ei gynnwys yng nghynllun datblygu cenedlaethol Cymru, Cymru’r Dyfodol, yn golygu y dylid ystyried safleoedd yng nghanol trefi a dinasoedd yn gyntaf ar gyfer pob penderfyniad yn ymwneud â lleoliad gweithleoedd a gwasanaethau.”