Bwriad cynllun y Waled Oren, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ydi helpu pobl, yn enwedig pobl sydd ag awtistiaeth, i ymdopi â chludiant cyhoeddus.
Mae’r waled yn becyn cyfathrebu ar gyfer pobl sy’n ei chael hi’n anodd cyfathrebu eu hanghenion i staff.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Mae’r Waled Oren yn cynnwys pocedi plastig i ddal geiriau a lluniau a fydd yn helpu pobl gyfathrebu eu hanghenion i staff cludiant cyhoeddus.
Bydd staff gwasanaethau cludiant cyhoeddus ar draws Cymru yn adnabod y waled ac yn gwybod sut i ddarparu’r cymorth priodol.
Os hoffech chi gael waled, neu fwy o wybodaeth, ewch draw i Galw Wrecsam.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU