Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio ar brosiect tymor hir i wella Ffordd yr Wyddgrug a Stryt y Rhaglaw.
Datblygu dyluniadau ar gyfer Stryt y Rhaglaw yw Cam 1, rhwng y Ffordd tuag at yr Orsaf a Stryt yr Allt. Bydd y rhain yn ei gwneud yn haws i bawb gerdded a beicio. Maent yn cynnwys:
- Llwybrau beiciau newydd di-dor
- Croesfannau newydd i gerddwyr
- Palmant newydd a mwy o wyrddni
Adran unffordd rhwng Heol y Brenin a Stryt yr Allt.
Hoffem glywed eich sylwadau ar ein dyluniadau drafft.
Darllenwch am y cynigion a dweud eich dweud drwy ein harolwg ar-lein.
Bydd yr arolwg yn dod i ben ar Awst 4, 2023.
Sesiwn Galw Heibio Cyhoeddus
Bydd tîm y prosiect wrth law i egluro’r cynigion ac i ateb eich cwestiynau chi:
Dydd Llun 17 Gorffennaf, Ysgol y Celfyddydau Creadigol, LL11 1PF, 2-7pm
Cerddwch neu feicio os yw’n bosib, neu defnyddiwch system Talu ac Arddangos Y Werddon.