Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynnal raffl i roi hwb i Gronfa Gardd Goffa Hightown
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cynnal raffl i roi hwb i Gronfa Gardd Goffa Hightown
Y cyngor

Cynnal raffl i roi hwb i Gronfa Gardd Goffa Hightown

Diweddarwyd diwethaf: 2021/11/04 at 9:29 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Memorial Garden
RHANNU

Mae cynlluniau’n symud ymlaen i greu Gardd Goffa gyda cherflun efydd o Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig a gafr gatrodol wedi’i lifoleuo y tu allan i Farics Hightown. Mae’r trefnwyr bellach wedi cyhoeddi eu bod am werthu tocynnau raffl am £1 i roi hwb i’r gronfa sy’n tyfu.

Bydd yr Ardd Goffa yn costio oddeutu £95,000 ac mae bron i £50,000 o’r swm hwnnw eisoes wedi’i godi trwy roddion caredig gan grwpiau cymunedol a busnesau lleol.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Mae gwobrau’r raffl wedi cael eu rhoi y garedig gan gwmni Wisgi Penderyn o Llandudno sef:

Gwobr Gyntaf – 2 wobr ar wahân – lle i 2 ar Daith Dosbarth Meistr ym Mhenderyn Llandudno sy’n sesiwn 3 awr gyda dosbarth arogli a blasu wisgi a thaith o amgylch y ddistyllfa.

Ail wobr – wyth gwobr ar wahân – potel o Wisgi Penderyn Brag Sengl Madeira.

Trydedd wobr – 2 wobr ar wahân – taith o amgylch Distyllfa Penderyn Llandudno i grŵp o chwech o bobl.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Rogers, “Mae’r cynlluniau yn symud ymlaen yn gyflym ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael dechrau arni. Bydd y raffl yn rhoi hwb i’r gronfa ac rydym bellach yn gwneud ail gais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri hefyd.

“Cefnogwch yr Ardd hon a fydd yn deyrnged addas i’r Barics, y milwyr a wasanaethodd yma ac er cof am bawb a gollwyd yn ystod y gwrthryfeloedd niferus y bu’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn gysylltiedig â nhw.”

Mae’r cerflunydd Nick Elphick eisoes wedi’i gomisiynu i greu’r cerflun a’r gobaith yw y bydd yn cael ei ddadorchuddio y flwyddyn nesaf.

Bydd y raffl yn cael ei thynnu yn nhafarn Bank ar Stryd Fawr Wrecsam, ar 17 Rhagfyr am hanner dydd.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno prynu tocyn raffl gysylltu â’r Cynghorydd Rogers ar: g.a.rogers3@btinternet.com or Mrs Karen Benfield ar: clerk@offacommunitycouncil.gov.uk

Byddant ar werth hefyd yn nigwyddiad Cynnau Goleuadau Nadolig BelleVue ar 26 Tachwedd ac mewn amryw o leoliadau yng nghanol y dref yn ystod yr wythnosau yn arwain at y diwrnod y tynnir y raffl.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwenfro Plant ysgol Wrecsam i elwa’n fwy o gerddoriaeth ????
Erthygl nesaf Mae’n Wythnos Therapi Galwedigaethol – dewch i ni dynnu sylw at ein Therapyddion Galwedigaethol yn Wrecsam Mae’n Wythnos Therapi Galwedigaethol – dewch i ni dynnu sylw at ein Therapyddion Galwedigaethol yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English