Mae cynigion ar y gweill i gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgol gynradd drefol.
Yr wythnos nesaf, bydd ein Bwrdd Gweithredol yn ystyried cynlluniau i gynyddu nifer y disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Lôn Barcas, Borras, Wrecsam.
Mae’r cynnig yn cynnwys rhoi estyniad i adeilad presennol yr ysgol er mwyn creu lle ar gyfer 105 o ddisgyblion ychwanegol, 15 disgybl fesul grŵp blwyddyn.
Byddai’r flwyddyn gyntaf o gynnydd yn dechrau ym mis Medi 2020, gyda 15 disgybl yn ychwanegol yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn.
Byddai’r nifer derbyn blynyddol yn cynyddu bob blwyddyn, hyd nes y byddant wedi cyrraedd yr uchafswm o 315 o ddisgyblion a 45 yn y dosbarth meithrin.
Cyflwynwyd y cynnig yn dilyn ymgynghoriad â chymuned ysgol Lôn Barcas, a gynhaliwyd o 18 Hydref tan 12 Rhagfyr y llynedd.
Caiff y cynigion i gynyddu nifer y lleoedd yn Lôn Barcas eu trafod yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth, 12 Mawrth.
Gallwch wylio’r gweddarllediad yn fyw yma, ac mae rhaglen y cyfarfod ar gael yma.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN