Mae nifer yr ymwelwyr sy’n dod i Eglwys San Silyn yng nghanol tref Wrecsam yn dal i gynyddu, ac mae’r staff wedi bod yn dathlu poblogrwydd yr Eglwys ymysg ymwelwyr o bell ac agos yn 2018.
Mae data sydd wedi’i gofnodi gan yr Eglwys yn dangos bod cyfanswm o 33,000 o ymwelwyr wedi dod yno yn 2018, heb gynnwys y Farchnad Nadolig Fictoraidd – twf o 21% ers 2017, a bron i ddwbl y nifer yn 2014.
Ar ben hynny, mae cofnodion yn Llyfr Ymwelwyr yr Eglwys (ac ar TripAdvisor) yn dangos pa mor fyd-eang yw apêl yr Eglwys i ymwelwyr o bob rhan o’r byd (gan gynnwys Awstralia, pob rhan o Ewrop, De America a Gogledd America) – yn ogystal ag ymwelwyr o bob rhan o Brydain.
Roedd yr ymwelwyr hyn a phobl leol yn dod i’r Eglwys am sawl rheswm, gan gynnwys yr Arddangosfa Babïau i goffáu’r Cadoediad, sesiynau dringo’r tŵr, sydd wastad yn boblogaidd, perfformiadau a chyngherddau, gwasanaethau arbennig, a’r holl gyfarfodydd Carolau ysgol ac elusennol ym mis Rhagfyr, heb sôn am y Farchnad Nadolig Fictoraidd.
Mae’r rhain i gyd yn ychwanegol at y gwasanaethau wythnosol a’r cyfarfodydd gweddi ac addoli i gyd, ynghyd â gweithgareddau rheolaidd a digwyddiadau’r Eglwys. Mae’r Eglwys Blwyf yn gobeithio cynyddu nifer yr ymwelwyr yn 2019.
Yn y Gwanwyn, bydd cyngherddau FOCUS Wales yn yr Eglwys ac ym mis Ebrill bydd y sesiynau poblogaidd i ddringo’r tŵr ar ddydd Sadwrn olaf y mis yn dychwelyd tan fis Medi, lle gall y rhai sy’n mentro i fyny 150 o risiau i’r brig weld golygfeydd panoramig o Ogledd-ddwyrain Cymru.
Dywedodd Ficer yr Eglwys Blwyf, y Parch. Dr Jason Bray, sy’n aelod o fwrdd Partneriaeth Dwristiaeth Dyma Wrecsam, wrthym ni: “Ein nod ni yn Eglwys San Silyn ydi bod yn weledol ac yn weithgar, a rhoi croeso cynnes iawn i bawb hefyd.
“Felly, mae hi’n wych gweld bod y neges yn cyrraedd mwy a mwy o ymwelwyr o hyd, ac mae nifer o’r rheini hefyd yn treulio amser yng nghanol y dref.”
Gan siarad ar ran Partneriaeth Dwristiaeth Dyma Wrecsam, dywedodd y Cadeirydd, Sam Regan: “Mae Eglwys Blwyf San Silyn yn atyniad mawr i ganol y dref ac mae hi’n croesawu gwahanol gynulleidfaoedd trwy gydol y flwyddyn, fel mae’r niferoedd yma’n dangos.
“Rydyn ni, a Thîm Twristiaeth y Cyngor, yn awyddus iawn i sicrhau bod yr Eglwys yn rhan allweddol o’r Cynllun Twristiaeth cyfredol ar gyfer y Sir, ac mae rhoi croeso o’r radd flaenaf i ymwelwyr yn ategu hynny.”
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN