Ydych chi am ddysgu mwy am gefnogi rhywun sydd â dementia? Dyma fanylion rhai cyrsiau sydd i ddod a allai fod o ddiddordeb i chi…
- Gweithgareddau Digidol sy’n Ysbrydoli – cwrs ar-lein gan Cymunedau Digidol Cymru i bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Dydd Mercher, 6 Tachwedd, 10am-12pm. Am ddim. I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i wefan Eventbrite.
- Dysgu am y Llwybr Cymorth Cof – sesiwn wybodaeth ar-lein i roi gwybod beth yw’r Llwybr Cymorth Cof a beth sydd ganddo i’w gynnig. Dydd Mercher, 6 Tachwedd, 1.30pm-3pm. Am ddim. I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i wefan Eventbrite.
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol – digwyddiadau wyneb yn wyneb a gynhelir yn Amgueddfa Lerpwl. Mae nifer o ddyddiadau i chi ddewis ohonynt yn 2025. Am ddim. I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i wefan Amgueddfa Lerpwl.
- Digwyddiadau Dementia Adventure – hyfforddiant i ffrindiau, teulu, gwirfoddolwyr, staff a sefydliadau i’w helpu i feddwl yn wahanol am ddementia a rhoi’r sgiliau a’r hyder iddynt sydd eu hangen arnynt yn eu rôl. Llawer o gyrsiau am ddim i ddod. I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i wefan Eventbrite.
Os nad ydych chi’n gallu mynd ar unrhyw un o’r cyrsiau hyfforddi, mae fideos cefnogaeth defnyddiol ar-lein a gallwch eu gwylio yn eich amser eich hun…
- Mae Dementia UK yn cynnig fideos cyngor fel cynnal iechyd gyda dementia, edrych ar ôl eich hunain, a deall newidiadau gyda dementia.
- Mae gan Pocket Media ffilmiau hyfforddiant llawn gwybodaeth am ddementia i ofalwyr. Dyma fideos byr o fywyd go iawn sy’n dangos pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.
Ein llwybr i ddod yn ofalwyr maeth – Newyddion Cyngor Wrecsam