Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n derbyn ein negeseuon i’ch atgoffa am eich bin? Mae nifer o resymau pam y dylech wneud…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ydych chi’n derbyn ein negeseuon i’ch atgoffa am eich bin? Mae nifer o resymau pam y dylech wneud…
Y cyngor

Ydych chi’n derbyn ein negeseuon i’ch atgoffa am eich bin? Mae nifer o resymau pam y dylech wneud…

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 24, 2024 10:33 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Ydych chi’n derbyn ein rhybuddion e-bost yn eich atgoffa am eich bin?
RHANNU

Ydych chi’n derbyn ein rhybuddion e-bost yn eich atgoffa am eich bin? Os nad ydych chi, dyma ychydig o resymau pam yr hoffech chi ystyried cofrestru i’w derbyn nhw.

Cynnwys
  • Gwiriwch pa ddiwrnod y mae eich biniau yn cael eu casglu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich casgliadau
  • Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: Wrth gofrestru i gael ein rhybuddion e-bost, byddwch chi’n cael neges atgoffa ddefnyddiol y diwrnod cyn eich casgliad nesaf, fydd yn rhoi gwybod i chi pa finiau a chynwysyddion ailgylchu i’w rhoi allan. Mae hefyd yn ffordd wych i ni roi gwybod i chi am unrhyw amhariadau sy’n effeithio ar y gwasanaeth.

“Bydd hi’n Nadolig cyn hir a bydd newidiadau i batrwm casglu arferol rhai preswylwyr. Byddwn ni’n defnyddio’r negeseuon hyn i roi gwybod i’n tanysgrifwyr am unrhyw newidiadau o flaen llaw. Dyma’r ffordd orai i ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwasanaeth.”

Ydych chi’n barod i gymryd rhan? Os nad ydych chi am fethu casgliad, ewch i’n gwefan a dilynwch y ddolen i gofrestru.

Trwy wneud hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cyn y diwrnod casglu. Os ydych chi eisoes yn derbyn y negeseuon atgoffa yma gennym ni, does dim angen i chi wneud unrhyw beth.

DERBYN RHYBUDD I’CH ATGOFFA AM EICH BIN

Gwiriwch pa ddiwrnod y mae eich biniau yn cael eu casglu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich casgliadau

Wyddoch chi y gallwch chi wirio pryd mae eich casgliadau bin diweddaraf yn syml trwy deipio eich cod post neu stryd?

Mae’r cyfleuster Gwirio’ch diwrnod casglu biniau yn ffordd wych o gael gwybod yn union pryd mae’ch biniau yn cael eu casglu. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i wirio’ch diwrnod casglu biniau, a gallwch wirio ar ran eich ffrindiau, aelodau o’ch teulu a chymdogion hefyd.

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.

Darllenwch fwy…

Diweddariad sydyn: Mae Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd yn para tan fis Chwefror 2025 – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchubiniaubinsgwastraffrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 - City of Culture bid Wrexham 2029 Cyfarwyddwr Cais Dinas Diwylliant wedi’i benodi gan yr Ymddiriedolaeth #Wrecsam2029
Erthygl nesaf Dementia Cyrsiau hyfforddi dementia sydd i ddod

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English