- Mae partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Gymdeithas Tennis Lawnt wedi rhoi bywyd newydd i gyrtiau tennis mewn parciau lleol.
- Mae £14,756.66 wedi’i fuddsoddi yng nghyrtiau’r Bellevue trwy’r prosiect
- Daw’r buddsoddiad o Brosiect Tennis mewn Parciau Sefydliad Tennis yr LTA a Llywodraeth y DU, sy’n cael ei ddarparu gan yr LTA.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Gymdeithas Tennis Lawnt wedi cydweithio i adnewyddu’r tri chwrt yn Bellevue fel rhan o fuddsoddiad £14,756.66 i wella cyfleusterau tennis yn y fwrdeistref.
Trwy’r buddsoddiad, mae’r tri chwrt yn Bellevue wedi’u hailbeintio’n llawn ac mae technoleg mynediad giatiau wedi’i gosod er mwyn ei gwneud yn haws i chwaraewyr ganfod ac archebu cwrt ar-lein, gyda sicrwydd mai nhw fydd yn cael defnyddio’r cwrt pan fyddant yn cyrraedd.
Mae’r adnewyddu’n dod fel rhan o fuddsoddiad cenedlaethol gan Lywodraeth y DU a Sefydliad Tennis yr LTA, a ddarperir gan yr LTA, i ailwampio miloedd o gyrtiau tennis cyhoeddus ar draws Prydain Fawr, ac agor y gamp i lawer mwy o bobl. Mae mwy na 1,500 o gyrtiau wedi’u trawsnewid trwy’r prosiect hyd yma.
Mae cyrtiau tennis mewn parciau yn hanfodol o ran darparu cyfleoedd i blant ac oedolion gadw’n heini, ac yn darparu manteision corfforol ac iechyd meddwl a lles sylweddol i’r rhai sy’n cymryd rhan. Mae cyfleusterau hygyrch mewn parciau yn arbennig o bwysig o ran rhoi cyfleoedd i’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a merched a genethod gymryd rhan yn y gamp.
Ynghyd â’r buddsoddiad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio gyda’r LTA i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws safleoedd y parc. Bydd hyn yn cynnwys darparu sesiynau tennis yn rhad ac am ddim mewn parciau a drefnir yn wythnosol i bawb o bob oed, lefel chwarae a phrofiad lle darparir offer, gan olygu na fydd yn rhaid i bobl gael rhywun i chwarae â nhw neu eu raced eu hunain. Bydd Cynghreiriau Tennis Lleol hefyd yn darparu cyfleoedd cyfeillgar a chymdeithasol i gadw’n heini trwy gystadlaethau lleol.
Mae’r cyrtiau yn Bellevue ar gael i’w harchebu nawr ar wefan yr LTA, a hefyd y cyrtiau ym Mharc Acton.
Dywedodd Jonathan Miller, Arweinydd Iechyd a Lles Cyngor Wrecsam: “Mae Wrecsam yn adnabyddus am bêl-droed, ond mae gennym un o’r cyfleusterau tennis dan do ac awyr agored mwyaf yn y DU hefyd (Canolfan Tennis Wrecsam), sy’n cynnal digwyddiadau rhyngwladol yn aml.
“Rydym yn gobeithio y bydd adnewyddu cyfleuster Bellevue yn caniatáu i fwy o aelodau’r gymuned gael mynediad at gyfleusterau tennis o ansawdd uchel a chymryd rhan yn y gêm.”
Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yn yr LTA:
“Rydym yn falch o gael gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i wella eu cyfleusterau tennis mewn parciau a darparu mwy o gyfleoedd i unrhyw un godi raced a chadw’n heini. Mae’r buddsoddiad yn rhan o Brosiect Tennis mewn Parciau Llywodraeth y DU a’r LTA, a bydd yn golygu y bydd cyrtiau ar gael i bobl eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau bod gan y gymuned leol ystod o gyfleoedd hygyrch i fynd ar gyrtiau, ac agor ein camp i lawer mwy o bobl.”