Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyrtiau tennis Bellevue wedi’u hadnewyddu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyrtiau tennis Bellevue wedi’u hadnewyddu
Y cyngorBusnes ac addysgPobl a lle

Cyrtiau tennis Bellevue wedi’u hadnewyddu

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 1, 2023 9:49 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Tennis
RHANNU
  • Mae partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Gymdeithas Tennis Lawnt wedi rhoi bywyd newydd i gyrtiau tennis mewn parciau lleol.
  • Mae £14,756.66 wedi’i fuddsoddi yng nghyrtiau’r Bellevue trwy’r prosiect
  • Daw’r buddsoddiad o Brosiect Tennis mewn Parciau Sefydliad Tennis yr LTA a Llywodraeth y DU, sy’n cael ei ddarparu gan yr LTA.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Gymdeithas Tennis Lawnt wedi cydweithio i adnewyddu’r tri chwrt yn Bellevue fel rhan o fuddsoddiad £14,756.66 i wella cyfleusterau tennis yn y fwrdeistref.

Trwy’r buddsoddiad, mae’r tri chwrt yn Bellevue wedi’u hailbeintio’n llawn ac mae technoleg mynediad giatiau wedi’i gosod er mwyn ei gwneud yn haws i chwaraewyr ganfod ac archebu cwrt ar-lein, gyda sicrwydd mai nhw fydd yn cael defnyddio’r cwrt pan fyddant yn cyrraedd.

Mae’r adnewyddu’n dod fel rhan o fuddsoddiad cenedlaethol gan Lywodraeth y DU a Sefydliad Tennis yr LTA, a ddarperir gan yr LTA, i ailwampio miloedd o gyrtiau tennis cyhoeddus ar draws Prydain Fawr, ac agor y gamp i lawer mwy o bobl. Mae mwy na 1,500 o gyrtiau wedi’u trawsnewid trwy’r prosiect hyd yma.

Mae cyrtiau tennis mewn parciau yn hanfodol o ran darparu cyfleoedd i blant ac oedolion gadw’n heini, ac yn darparu manteision corfforol ac iechyd meddwl a lles sylweddol i’r rhai sy’n cymryd rhan.  Mae cyfleusterau hygyrch mewn parciau yn arbennig o bwysig o ran rhoi cyfleoedd i’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a merched a genethod gymryd rhan yn y gamp. 

Ynghyd â’r buddsoddiad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio gyda’r LTA i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws safleoedd y parc. Bydd hyn yn cynnwys darparu sesiynau tennis yn rhad ac am ddim mewn parciau a drefnir yn wythnosol i bawb o bob oed, lefel chwarae a phrofiad lle darparir offer, gan olygu na fydd yn rhaid i bobl gael rhywun i chwarae â nhw neu eu raced eu hunain.  Bydd Cynghreiriau Tennis Lleol hefyd yn darparu cyfleoedd cyfeillgar a chymdeithasol i gadw’n heini trwy gystadlaethau lleol.  

Mae’r cyrtiau yn Bellevue ar gael i’w harchebu nawr ar wefan yr LTA, a hefyd y cyrtiau ym Mharc Acton.

Dywedodd Jonathan Miller, Arweinydd Iechyd a Lles Cyngor Wrecsam: “Mae Wrecsam yn adnabyddus am bêl-droed, ond mae gennym un o’r cyfleusterau tennis dan do ac awyr agored mwyaf yn y DU hefyd (Canolfan Tennis Wrecsam), sy’n cynnal digwyddiadau rhyngwladol yn aml.

“Rydym yn gobeithio y bydd adnewyddu cyfleuster Bellevue yn caniatáu i fwy o aelodau’r gymuned gael mynediad at gyfleusterau tennis o ansawdd uchel a chymryd rhan yn y gêm.”

Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yn yr LTA:

“Rydym yn falch o gael gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i wella eu cyfleusterau tennis mewn parciau a darparu mwy o gyfleoedd i unrhyw un godi raced a chadw’n heini. Mae’r buddsoddiad yn rhan o Brosiect Tennis mewn Parciau Llywodraeth y DU a’r LTA, a bydd yn golygu y bydd cyrtiau ar gael i bobl eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau bod gan y gymuned leol ystod o gyfleoedd hygyrch i fynd ar gyrtiau, ac agor ein camp i lawer mwy o bobl.”

TAGGED:Tenniswrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Tree Helpwch i blannu coed ar Gae Chwarae Bradle
Erthygl nesaf Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad: Cynyddu capasiti Ysgol y Santes Fair, Brymbo Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad: Cynyddu capasiti Ysgol y Santes Fair, Brymbo

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English