A ydych chi’n awyddus i gymryd rhan mewn her garddio newydd?
Efallai eich bod chi’n ymfalchïo yn eich gardd ac eisiau ei rannu â phawb?
Neu efallai bod gennych chi fasgedi crog neu batio arddangos gwerth chweil?
Os ydych chi’n denant y cyngor yn byw yn ardal Swyddfa Ystâd Plas Madoc, ac yn awyddus i arddangos eich doniau, dyma’r gystadleuaeth i chi.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Rydym yn estyn gwahoddiad i bawb sy’n barod i ddangos eu gerddi a’u patios arddangos hyfryd i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth Gerddi Tenantiaid a chystadlu yn erbyn eich cymdogion am y wobr buddugol.
Y ddau brif gategori yw ‘Yr Ardd Orau’ a’r ‘Potiau/Basgedi Gorau’ a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd a’r ail ym mhob ardal o’r fwrdeistref sirol.
Mae categori hefyd ar gyfer llety gwarchod, a bydd gwobr ar gyfer yr enillydd a’r ail yn y gystadleuaeth hon hefyd.
Gall tenantiaid enwebu rhywun arall neu gofrestru eu hunain ar gyfer y gystadleuaeth drwy ddefnyddio’r ffurflen gofrestru sydd ar gael o’r Swyddfa Ystâd Plas Madoc.
Bydd y beirniadu’n digwydd ar 14 Mehefin, felly ewch ati i gynllunio a phlannu, a chadwch lygad allan am erddi hyfryd!
Ffoniwch 01978 813000 i gael rhagor o wybodaeth.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU