Ydych chi erioed wedi ystyried sut fyddech chi’n gwybod bod rhywbeth yr ydych wedi’i brynu wedi’i alw’n ôl am resymau diogelwch? Does dim rhaid ystyried ymhellach!

Nawr mae gwefan y gallwch ei defnyddio sy’n golygu na fyddwch byth yn methu negeseuon diogelwch pwysig eto.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Mae Register my Appliance yn wefan lle’r ydych yn ychwanegu manylion eich teclyn, hen neu newydd, er mwyn i’r gwneuthurwr allu cysylltu â chi os bydd angen rhannu neges am ddiogelwch neu alw eitem yn ôl.

Ar ôl i chi brynu cynnyrch gall fod yn anodd i wneuthurwr eich olrhain os nad ydych yn darparu manylion cyswllt wrth brynu. Mae defnyddio’r wefan hon yn golygu fod gennych un lleoliad i gofrestru eich holl declynnau a sicrhau nad ydych yn methu negeseuon diogelwch, neu’r adegau prin pan fo cynnyrch yn cael ei alw’n ôl.

Felly, cliciwch ar y ddolen hon i gofrestru eich teclyn a byddwch yn ddiogel mewn dim!

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU