Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Dylai disgyblion sy’n cael eu canlyniadau heddiw fod yn falch iawn o’u cyflawniadau. “Hoffwn estyn fy niolch i’n staff addysgu ymroddgar, rhieni a gwarcheidwaid sydd wedi cefnogi’r disgyblion dros sawl blwyddyn er mwyn cyrraedd carreg filltir heddiw. Diolch a da iawn.”
Meddai Karen Evans, Pennaeth Addysg Wrecsam: “Llongyfarchiadau i fyfyrwyr chweched dosbarth ysgolion Wrecsam wrth iddynt ddathlu canlyniadau eu harholiadau Lefel A, a Bagloriaeth Cymru. “P’un a ydych am symud i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth, hoffwn ddymuno pob lwc i chi i gyd yn eich llwybrau addysg a gyrfa yn y dyfodol, ar ran Cyngor Wrecsam.”
Dywedodd GwE, y gwasanaeth gwella ysgolion sy’n gweithio ar y cyd ac Iir awdurdodau lleol yn ddweud: “Hoffai’r 6 Awdurdod Lleol yn y Gogledd a GwE longyfarch holl ddysgwyr Blwyddyn 12 a 13 ar eu cyflawniadau eleni.
“Hoffem ddymuno’r gorau i bob person ifanc i’r dyfodol, a chydnabod y gefnogaeth a gawsant gan eu hysgolion, eu teuluoedd a’u hawdurdodau lleol trwy heriau digynsail y blynyddoedd diwethaf.”
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR