Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Darllena ‘mlaen, cymera ran – ymgyrch Gaeaf Llawn Lles
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Darllena ‘mlaen, cymera ran – ymgyrch Gaeaf Llawn Lles
Y cyngor

Darllena ‘mlaen, cymera ran – ymgyrch Gaeaf Llawn Lles

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 18, 2022 10:35 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Consultation
RHANNU

Mae Cymru eisiau helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n well ar ôl blwyddyn anodd ac wrth i ni symud mewn i 2022.

Ym mis Ionawr, bydd Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â The Reading Agency i gyflwyno rhan allweddol o ymgyrch Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru. Mae’n mynd i fod yn ddathliad arbennig iawn o ddarllen a phopeth y gall darllen ei wneud i godi hwyliau pobl ifanc 0-25 a chysylltu teuluoedd, ffrindiau a chymunedau ledled Cymru.

Byddwn yn gweithio yn yr ardal hon i ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau cyffrous (mwy o newyddion i ddod!) a ry’n ni eisiau clywed gan blant, teuluoedd, y glasoed a phobl ifanc (unrhyw un o dan 25) am y llyfrau maen nhw wedi eu mwynhau, a pha rai sydd wedi neud iddyn nhw deimlo’n well.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Os wyt ti yn y grŵp oedran yma (neu’n rhiant neu ofalwr i blentyn bach), ry’n ni eisiau gwybod pa lyfrau hoffet ti rannu wrth i’r ymgyrch fynd yn ei blaen. Hoffem i ti ein helpu ni i greu Rhestr Ddarllen Gaeaf Llawn Lles.

Pa lyfr sy’n neud i ti deimlo’n well?

Ry’n ni’n dy wahodd i rannu llyfr Cymraeg neu Saesneg (ffuglen, ffeithiol, barddoniaeth, nofelau graffig, straeon byrion – dy ddewis di) sydd wedi dy helpu yn un o’r ffyrdd isod:

  • Gwneud i ti deimlo’n well, drwy godi dy hwyliau neu dy helpu i ymlacio, drwy ddod â gwên i dy wyneb, gwneud i ti deimlo’n dda neu wneud i ti chwerthin wrth i ti droi’r dudalen
  • Teimlo cysylltiad gydag eraill yn dy deulu, cymuned, coleg neu ddosbarth, yn y gweithle neu yn dy amser sbâr
  • Teimlo bod pobl yn dy ddeall gan fod y llyfr yn cydnabod beth rwyt ti’n teimlo ac yn mynd drwyddo, neu dy helpu i ddeall y bobl o dy gwmpas yn well am yr un rheswm

Mae’n bosib fod ‘da ti dy resymau dy hun dros yr argymhelliad, a byddem wrth ein bodd o’u clywed!

‘Na gyd sydd angen i ti (neu dy athro, arweinydd ieuenctid, rhiant neu ofalwr) neud yw ymuno â ni yma www.surveymonkey.co.uk/r/WoWWelsh a dweud wrthym pa lyfr(au) hoffet ti eu rhannu.  Dyw’r arolwg ddim yn cymryd lot o amser, a bydden ni’n ddiolchgar iawn i ti am gymryd rhan. Drwy rannu, byddi di’n ein helpu i hybu lles pobl ifanc ledled Cymru.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol coun Cyngor Wrecsam – Datganiad ynghylch cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol
Erthygl nesaf Vaccine Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English