Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Datganiad ar ddiogelwch rhag tân ein systemau inswleiddio waliau allanol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datganiad ar ddiogelwch rhag tân ein systemau inswleiddio waliau allanol
Pobl a lleY cyngor

Datganiad ar ddiogelwch rhag tân ein systemau inswleiddio waliau allanol

Diweddarwyd diwethaf: Medi 7, 2017 11:19 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Datganiad ar ddiogelwch rhag tân ein systemau inswleiddio waliau allanol
RHANNU

Yn rhan o’r ymdrech barhaus i wella tai cyngor ar draws y sir, fe hoffem sicrhau ein tenantiaid bod yr ynysydd rydym yn ei ddefnyddio ar waliau allanol yn cydymffurfio â safonau diogelwch.

Cynnwys
  • Profion diogelwch tân annibynnol
  • Y rhaglen foderneiddio sylweddol

Yn dilyn digwyddiadau trychinebus Tŵr Grenfell, mae cynghorau ar hyd a lled y DU wedi wynebu cwestiynau ynglŷn â’r math o ddeunyddiau roedden nhw’n eu defnyddio.

Hoffai Cyngor Wrecsam sicrhau ein tenantiaid a’n preswylwyr bod yr ynysydd rydyn ni’n ei osod ar waliau allanol wedi’i brofi’n drylwyr a’i fod yn cydymffurfio â Safonau Prydeinig a Rheoliadau Adeiladu cyfredol.

Profion diogelwch tân annibynnol

Rydyn ni’n defnyddio dwy system ynysu waliau allanol, gan ddibynnu ar ba fath o adeiladau ydynt.

Mae’r ddwy’n systemau brics main/rendr wedi’u hynysu ac maent wedi’u bwriadu ar gyfer adeiladau isel, yn hytrach na’r system sgrin law hefo tyllau awyru a ddefnyddiwyd i adnewyddu Tŵr Grenfell.

Rydym wedi ymgynghori’n ddiweddar gyda’r ddau wneuthurwr sy’n darparu’r systemau ynysu waliau allanol i’r Cyngor.

Maen nhw wedi ein sicrhau ymhellach bod yr holl ddeunyddiau a ddefnyddir yn eu systemau wedi pasio profion diogelwch tân annibynnol, llawn.

Y rhaglen foderneiddio sylweddol

Ar hyn o bryd, rydym yn parhau â’r rhaglen ynysu waliau allanol ar draws y sir.

Mae’r gwaith yn cael ei wneud fesul cam ac fe fydd wedi’i orffen erbyn 2020.

Mae’r ynysydd yn cael ei osod ar eiddo heb fod ar ffurfiau traddodiadol, fel tai ffrâm ddur a phren.

Mae hi fel arfer yn anoddach ac yn ddrytach cynhesu adeiladau fel hyn na thai brics gydag ynysydd wal geudod.

Mae’r ynysydd waliau allanol wedi’i ddylunio i arbed ynni a’i gwneud yn rhatach i’n tenantiaid gynhesu eu cartrefi.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o raglen foderneiddio sylweddol y Cyngor i sicrhau ein bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Yr ystâd sydd ar fin cael ei gweddnewid... Yr ystâd sydd ar fin cael ei gweddnewid…
Erthygl nesaf Ydych chi’n fodlon talu dirwy o £50,000? Ydych chi’n fodlon talu dirwy o £50,000?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English