Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Yr ystâd sydd ar fin cael ei gweddnewid…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Yr ystâd sydd ar fin cael ei gweddnewid…
Y cyngor

Yr ystâd sydd ar fin cael ei gweddnewid…

Diweddarwyd diwethaf: Awst 17, 2017 12:12 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Yr ystâd sydd ar fin cael ei gweddnewid...
RHANNU

Bydd gwaith gwella helaeth yn dechrau ar un o stadau tai Wrecsam yn yr wythnosau nesaf.

Cynnwys
  • Biliau ynni is ar gyfer tenantiaid
  • Cewch wybod mwy yn y digwyddiad gwybodaeth

Bydd cartrefi ym Mhlas Madoc yn cael eu moderneiddio fel rhan o brosiect Cyngor Wrecsam i sicrhau ein bod yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2020.

Bydd insiwleiddio waliau allanol yn cael eu gosod yn 400 o dai ‘Cubbitt’ (ffrâm ddur) y Cyngor ym Mhlas Madoc fel rhan o’r gwelliannau.

Mae’r insiwleiddio wedi’i gynllunio i wella effeithlonrwydd ynni’r eiddo sydd fel arfer yn anoddach ac yn ddrytach eu cynhesu na thai bric gyda inswleiddiad wal geudod traddodiadol.

Bydd eiddo hefyd yn cael toeau newydd, os oes angen.

Bydd y prosiect hefyd yn gyfle i ni wella amgylchedd a thirwedd y stad. Gall hyn o bosibl gynnwys ailgynllunio mannau cyhoeddus, mannau parcio, ffensys newydd, ehangu gerddi a darparu tai newydd. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwaith i ddod draw i’r diwrnod agored a darganfod mwy.

Bydd nifer o eiddo gwag yn ardaloedd Peris a Gwynant o’r ystâd hefyd yn cael eu dymchwel fel rhan o’r gwaith.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Biliau ynni is ar gyfer tenantiaid

Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Yn dilyn sawl mis o waith paratoi ac ymgynghori gyda’r tenantiaid a phreswylwyr lleol, gallwn rŵan gyhoeddi y bydd y gwaith gwella yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Bydd y camau cyntaf yn cynnwys dymchwel eiddo yn Peris a Gwynant. Yn draddodiadol, mae’r rhain wedi bod yn amhoblogaidd ac yn anodd eu gosod ac maent yn cyfrannu ychydig iawn i edrychiad yr ystâd. Bydd eu dymchwel yn agor yr ardaloedd hyn ac yn ein helpu i wella’r ystâd o safbwynt amgylcheddol.”

“Bydd yr insiwleiddio waliau allanol hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae wedi’i gynllunio i wneud cartrefi oerach yn haws eu cynhesu, felly gobeithio y bydd hyn yn golygu biliau ynni is ar gyfer llawer o’n tenantiaid.

“Bydd gosod yr inswleiddio hefyd yn ein galluogi i wella edrychiad allanol yr eiddo yn helaeth. Rydym wedi gweithio’n galed ar y gwaith cynllunio ac rydym yn gobeithio ailadrodd y llwyddiant rydym wedi’i gael gyda chynlluniau tebyg rydym wedi’u cynnal mewn ardaloedd fel Cefn a Johnstown.”

Cewch wybod mwy yn y digwyddiad gwybodaeth

Cynhelir digwyddiad galw heibio i roi gwybodaeth ar y gwaith gwella yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc (yn y Lolfa Acwa) ddydd Mercher, 9 Awst, 2pm-6.30pm.

Croeso i bawb. Bydd Swyddogion Tai wrth law i ateb cwestiynau a bydd cyfle i chi hefyd gwrdd a siarad â’r contractwyr a fydd yn gwneud y gwaith.
Cynhyrchwyd fideo CGI o sut y gall yr ystâd edrych yn gynharach eleni gan bartneriaeth rhwng Adran Tai ac Economi Cyngor Wrecsam a Phrifysgol Glyndwr.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith gwella tai sy’n cael ei wneud i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, ewch i wefan y cyngor

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Helpwch i amddiffyn rhai sy’n agored i niwed rhag masnachwyr twyllodrus – mwy o wybodaeth yma Helpwch i amddiffyn rhai sy’n agored i niwed rhag masnachwyr twyllodrus – mwy o wybodaeth yma
Erthygl nesaf Datganiad ar ddiogelwch rhag tân ein systemau inswleiddio waliau allanol Datganiad ar ddiogelwch rhag tân ein systemau inswleiddio waliau allanol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English