Datganiad gan Brif Weithredwr Cyngor Wrecsam Ian Bancroft:
Cyhoeddais ym mis Hydref fy mod yn bwriadu gadael y Cyngor yn ystod 2025. Yn dilyn sgyrsiau o fewn y Cyngor rwyf wedi penderfynu gadael ar 31 Rhagfyr 2024 a fydd yn galluogi’r newid i ddigwydd o ddechrau 2025. Mae hyn yn caniatáu i’r Cyngor gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Byddaf mewn sefyllfa bersonol i gynllunio ar gyfer y dyfodol drwy wneud y penderfyniad cynnar hwn.
Hoffwn ddiolch i’r holl gynghorwyr, cydweithwyr agos a gweithlu ehangach y Cyngor, a phartneriaid lleol a rhanbarthol sydd wedi bod o gymorth i Wrecsam ac i mi yn ystod y cyfnod hwn yn y Cyngor.
Mae dyfodol Wrecsam yn ddisglair ac rwy’n falch o fod wedi gwneud cymaint o gyfraniad yn fy nghyfnod fel Prif Weithredwr.
Datganiad gan y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
Bydd y Prif Weithredwr yn gadael y cyngor ar 31 Rhagfyr 2024 a bydd prosesau nawr yn dechrau i benodi Prif Weithredwr interim yn y Flwyddyn Newydd cyn penodi Prif Weithredwr parhaol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.