Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi – dyma sut y gallwch chi gymryd rhan eleni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi – dyma sut y gallwch chi gymryd rhan eleni
Pobl a lleY cyngor

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi – dyma sut y gallwch chi gymryd rhan eleni

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 13, 2021 9:32 am
Rhannu
Darllen 3 funud
St David's Day
RHANNU

Mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Tŷ Pawb, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu wythnos gyfan llawn o ddathliadau rhithiol i ddathlu Gŵyl Ddewi eleni rhwng Mawrth 1af- 5ed.

Cynnwys
  • Gorymdaith
  • Pasio’r Faner
  • “Pwy oedd Dewi Sant?”
  • Dydd Gŵyl Dewi Hapus
  • Coginio gyda chynnyrch lleol
  • Celf
  • Ffotograffiaeth
  • Limrig
  • Cystadleuaeth i’r Dysgwyr

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Coronafeirws

Bydd y dathliadau yn wahanol i’r arfer ond rydym yn gobeithio y byddant yn adlewyrchu’r ffaith er ein bod ar wahân eleni rydym yn dal yn gallu dod ynghyd yn rhithiol i ddathlu Gŵyl Nawddsant Cymru yn ddiogel. Mi fydd rhywbeth at ddant pawb a, gan gofio i ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru bob amser, mae’r Fenter am eich gwahodd i gymryd rhan mewn amryw o ffyrdd:

Gorymdaith

Gyrrwch glipiau o’ch teulu, cydweithwyr, mudiad neu gymdeithas yn gorymdeithio.

Pasio’r Faner

Gyrrwch glipiau o bobl yn pasio baner Cymru i’w gilydd drwy ei dal ar eu hochr dde a’i thaflu ymlaen i’r ochr chwith.

“Pwy oedd Dewi Sant?”

Gyrrwch glip ohonoch chi neu aelod o’ch teulu yn ateb y cwestiwn uchod. Cadwch ei atebion mor fyr a chryno â phosib.

Dydd Gŵyl Dewi Hapus

Gyrrwch fideo ohonoch yn dymuno “Dydd Gŵyl Dewi Hapus” yn y Gymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith arall rydych chi’n ei siarad.

Mi fydd Eisteddfod rhithiol hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos gyda sawl cystadleuaeth i’r gymuned:

Coginio gyda chynnyrch lleol

Gyrrwch lun o’ch campwaith ynghyd â’r rysáit a llun o’r cynhwysyn/ion lleol.

Celf

Gyrrwch lun o eitem wedi’i greu o bethau wedi’u hailgylchu ar y thema, ‘Hanes Cymru’.

Ffotograffiaeth

Gyrrwch lun ar y thema ‘Natur’ neu ‘Harddwch Cymru’.

Limrig

Ysgrifennwch limrig gyda’r llinell gyntaf i gynnwys yr enw ‘Dewi’.

Cystadleuaeth i’r Dysgwyr

Ysgrifennwch ddeialog ar y thema ‘Mae’r Gymraeg i bawb’.

I gymryd rhan neu gystadlu yng nghystadlaethau’r Eisteddfod gyrrwch eich cyfraniadau/ eitemau ynghyd â chaniatâd i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol at maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru erbyn 5ed Chwefror gan nodi ym mha sir yr ydych yn byw. Mae manylion cystadlu a chanllawiau ffilmio ar gael ar dudalen Facebook Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

Os am ymuno yn y dathliadau mewn unrhyw ffordd, cofiwch ddefnyddio’r hashnodau #DewiSiryFflint a #DewiWrecsam a chofiwch ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru bob amser.

Bydd yr holl fideos, lluniau, canlyniadau’r Eisteddfod yn ogystal ag amrywiaeth eang o weithgareddau eraill yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam rhwng Mawrth 1af- 5ed.

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol ty pawb Eisiau bod yn fasnachwr bwyd/diod yn Tŷ Pawb?
Erthygl nesaf Country Parks Mae’r meysydd parcio yn ein Parciau Gwledig bellach ar gau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English