Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Digwyddiadau Pobl a lle
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2024/02/08 at 1:32 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam
RHANNU

Erthygl gwadd – Menter Iaith Fflint a Wrecsam

Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam yn un o’r pethau mwyaf cyffroes a phoblogaidd yn nghalendr digwyddiadau Wrecsam, ac eto eleni bydd llu o ysgolion, mudiadau, sefydliadau ac unigolion yn heidio i ganol y ddinas i ddathlu’r achlysur arbennig hwn ar ddydd Gwener, Mawrth 1af 2024.

Bydd yr orymdaith yn ymgynnull o flaen Neuadd y Dref (Llwyn Isaf) am12.45pm cyn cychwyn yn brydlon am 1.00pm dan arweiniad Band Cambria, gan deithio drwy’r dref cyn gorffen ar Sgwâr y Frenhines.  Yna bydd cyfle i bawb cyd-ganu’r Anthem Genedlaethol a Chalon Lân dan arweiniad Andy Hickie.

Dyma estyn gwahoddiad cynnes ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Menter Iaith Fflint a Wrecsam i bawb ymuno â’r bwrlwm.

Dywedodd y Cyng. Andy Williams, Maer Wrecsam:

“Gyda’r ddwy flynedd nesaf yn argoeli i fod yn gyfnod cyffroes iawn gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar y gorwel, braf yw gallu dathlu diwylliant Cymru unwaith eto gyda’r orymdaith flynyddol odidog hon.”

Eleni hefyd, am y tro cyntaf, bydd y dathliadau yn parhau yn Nhŷ Pawb am 4pm, felly dewch draw i’r ardal fwyd i fwynhau adloniant byw gan Megan Lee a Meinir Gwilym, stondinau gyda chynnyrch o Gymru a sesiwn grefft i deuluoedd.

Mae’r dathliadau hyn yn rhan o lu o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu Dydd ein Nawddsant, felly defnyddiwch #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth, wrth rannu lluniau neu ddilyn y digwyddiad drwy gydol y dydd.Dylai pawb sy â diddordeb mewn ymuno yn yr orymdaith gysylltu â Maiwenn Berry ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar 01352 744 040 neu e-bostio maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol The Guildhall, Wrexham Cymeradwywyd newidiadau arfaethedig i brisiau prydau ysgolion uwchradd a sesiynau chwarae ysgolion cynradd
Erthygl nesaf ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Digwyddiadau Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor Rhagfyr 5, 2025
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam Rhagfyr 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
DigwyddiadauPobl a lle

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!

Rhagfyr 5, 2025
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos

Rhagfyr 5, 2025
Green garden waste bin
Y cyngor

Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf

Rhagfyr 5, 2025
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
ArallDatgarboneiddio Wrecsam

Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam

Rhagfyr 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English