Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Tŷ Pawb, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu wythnos lawn o ddathliadau rhithiol i ddathlu Gŵyl Ddewi eleni rhwng Mawrth 1af- 5ed.
Er y bydd y dathliadau yn wahanol i’r arfer, bydd y dathliadau’n adlewyrchu’r ffaith ein bod ar wahân ond gyda’n gilydd yn dathlu Gŵyl Nawddsant Cymru yn ddiogel o adref eleni. Mi fydd rhywbeth at ddant pawb.
Drwy gydol yr wythnos mi fydd holl waith a chanlyniadau Eisteddfod Gŵyl Ddewi’n cael eu cyhoeddi. Mi fydd hefyd amrywiaeth o weithgareddau i’w mwynhau gan gynnwys gorymdaith rithiol gyda Band Cambria yn perfformio, ryseitiau coginio a llawer mwy. Bydd rhain yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam rhwng Mawrth 1af – 5ed.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Fel rhan o’r dathliadau, cynhelir Cwis Taith yr Iaith gan R. Ben Igwr (Llion Williams) i’r teulu oll dros Zoom ar nos Fawrth, 2il Mawrth rhwng 6-7pm. I archebu lle, e-bostiwch anna@menterfflintwrecsam.cymru.
Bydd y dathliadau’n dod i ben gyda sesiwn arbennig gan y band Bandicoot ar dudalennau Facebook Tŷ Pawb a Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar nos Wener, Mawrth 5ed am 7:30pm.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, “Mae dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn rhan bwysig o fyw yng Nghymru, ac eleni bydd yna lawer o ffyrdd cyffrous a diogel y gallwn wneud hynny ar-lein. Gadewch inni wneud yn siŵr ein bod yn ymuno gyda’n gilydd yn ddigidol yn 2021 a’i gwneud yn Ddydd Gŵyl Dewi i’w gofio am yr holl bethau da sy’n digwydd.”
Os am ymuno yn y dathliadau mewn unrhyw ffordd, cofiwch ddefnyddio’r hashnodau #DewiSiryFflint a #DewiWrecsam a chofiwch ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru.
CANFOD Y FFEITHIAU