maesydre

Mae’r enwebiadau bellach wedi cyrraedd ar gyfer isetholiad Maesydre, a fydd yn cael ei gynnal ar 18 Mawrth.

Mae’r rhestr ffurfiol o’r pum ymgeisydd, o’r swyddog canlyniadau, Ian Bancroft, fel a ganlyn:

Catherine BROWN dros Plaid Geidwadol Cymru

Roger DAVIES dros Y Democratiaid Rhyddfrydol

Becca MARTIN dros Plaid Cymru

Mae Clive Graham RAY yn Annibynnol

Tom STANFORD dros Llafur Cymru

Felly, os ydych chi’n byw yn ward Maesydre, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i gael dweud eich dweud. Mae tair ffordd i bleidleisio:

• Yn yr orsaf bleidleisio yn Nhŷ Cyfarfod Cyfeillion, Ffordd Holt ar ddydd Iau, 18 Mawrth
• Pleidlais drwy’r post – bydd angen i chi wneud cais erbyn 5pm ar ddydd Mercher, 3 Mawrth
• Pleidlais drwy ddirprwy – gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais erbyn dydd Mercher, 10 Mawrth

Cadwch lygad am eich cerdyn pleidleisio, a gaiff ei anfon yn nes ymlaen yr wythnos hon.

Pleidleisiwch a chadwch yn ddiogel

Os byddwch chi’n penderfynu pleidleisio yn bersonol, bydd glanweithydd dwylo ar gael yn yr orsaf bleidleisio. Fodd bynnag, gofynnwn i chi ddod â’ch beiro neu bensil eich hun yn ogystal â’ch cerdyn pleidleisio (bydd dod â’r cerdyn gyda chi yn arbed amser). Hefyd, mae’n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb a chadw pellter o 2 fetr oddi wrth pleidleiswyr eraill a staff.

Os hoffech chi bleidleisio’n bersonol, ond yn datblygu unrhyw symptomau coronafeirws ar ôl 10 Mawrth, ffoniwch ni ar 01978 292020.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at electoral@wrexham.gov.uk.

😷 Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru 👈

CANFOD Y FFEITHIAU