Daeth Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam i ben yn gynharach y mis hwn wedi pedwar diwrnod llwyddiannus o 28 Tachwedd i 1 Rhagfyr, gan ddifyrru ymwelwyr a nodi dechrau tymor yr Ŵyl. Fe gyflwynodd y farchnad eleni gabanau pren hyfryd ac amserlen estynedig, a phrofodd y ddau beth i fod yn newid cadarnhaol.
Roedd y fformat estynedig pedwar diwrnod yn galluogi mwy o bobl i ymweld a mwynhau’r digwyddiad. Roedd adborth gan y rhai ddaeth i’r farchnad yn canmol yr awyrgylch croesawgar, o’r stondinwyr cyfeillgar i’n Siôn Corn poblogaidd ni ein hunain, yn ogystal â’r cabanau pren newydd a oedd yn ychwanegu naws draddodiadol i’r digwyddiad. Cafodd Eglwys San Silyn ei goleuo’n hyfryd ac roedd wedi’i gosod yn erbyn cefndir o ‘eira’ gan roi canolbwynt hudolus ar gyfer dathliadau’r Ŵyl.
Roedd y Farchnad Nadolig Fictoraidd hefyd yn cyd-fynd â lansiad swyddogol Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol sydd wedi eu hadnewyddu, gan ddathlu adfer y ddau adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi bod yn gonglfeini yng nghymuned Wrecsam ers amser. Croesawyd ymwelwyr i’r marchnadoedd golau, awyrog a chynnes gan Faer Wrecsam y Cynghorydd Beryl Blackmore a Mr Mohammed Anwar, un o fasnachwyr mwyaf hirsefydlog Wrecsam sydd wedi bod yn gwasanaethu ers dros 50 mlynedd. Fe ganodd Mr Anwar gloch Marchnad y Cigyddion a oedd wedi ei hadnewyddu, nodwedd hanesyddol a ddefnyddiwyd unwaith i nodi dechrau a diwedd pob diwrnod masnachu.
Mae’r ailagor eisoes wedi ennyn diddordeb sylweddol, gyda nifer gynyddol o fasnachwyr yn mynegi eu brwdfrydedd dros gael stondin yn y marchnadoedd sydd wedi eu hadnewyddu. Mae’r diddordeb hwn sydd o’r newydd yn amlygu’r rôl hanfodol mae’r marchnadoedd hyn yn parhau i’w chwarae mewn cefnogi busnesau lleol a chreu mannau cymunedol bywiog.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Twristiaeth a Busnes, a oedd yn bresennol yn y dathliadau: “Mae’r Farchnad Nadolig Fictoraidd eleni wedi bod yn llwyddiant anhygoel. Roedd ymestyn y digwyddiad i bedwar diwrnod yn ein galluogi ni i groesawu mwy o ymwelwyr hyd yn oed i Ganol y Ddinas, ac roedd yr awyrgylch ym Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol yn anhygoel. “Mae’n galonogol i weld cynnig marchnadoedd Wrecsam yn tyfu unwaith eto, gan ddod â’r gymuned ynghyd, gan gefnogi masnachwyr a busnesau lleol ac ysgogi ymwelwyr yng nghanol y ddinas. “Hefyd hoffwn ddiolch i’r timau Digwyddiadau a Chanol y Ddinas am eu hymroddiad a’u gwaith caled i wneud ailagor y marchnadoedd a’r Farchnad Nadolig Fictoraidd yn llwyddiant mor ysgubol.”
Wrth i Farchnadoedd Wrecsam edrych tua’r dyfodol, caiff unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn rhan o’r bennod newydd gyffrous hon eu hannog i gysylltu ac archwilio cyfleoedd masnachu.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Marchnadoedd Wrecsam: wrexhammarkets@wrexham.gov.uk.