Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathliadau’r Nadolig ym Marchnad Pedwar Diwrnod Wrecsam yn profi i fod yn Llwyddiant!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dathliadau’r Nadolig ym Marchnad Pedwar Diwrnod Wrecsam yn profi i fod yn Llwyddiant!
Y cyngorPobl a lle

Dathliadau’r Nadolig ym Marchnad Pedwar Diwrnod Wrecsam yn profi i fod yn Llwyddiant!

Diweddarwyd diwethaf: 2024/12/19 at 11:45 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Dathliadau’r Nadolig ym Marchnad Pedwar Diwrnod Wrecsam yn profi i fod yn Llwyddiant!
RHANNU

Daeth Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam i ben yn gynharach y mis hwn wedi pedwar diwrnod llwyddiannus o 28 Tachwedd i 1 Rhagfyr, gan ddifyrru ymwelwyr a nodi dechrau tymor yr Ŵyl. Fe gyflwynodd y farchnad eleni gabanau pren hyfryd ac amserlen estynedig, a phrofodd y ddau beth i fod yn newid cadarnhaol.


Roedd y fformat estynedig pedwar diwrnod yn galluogi mwy o bobl i ymweld a mwynhau’r digwyddiad. Roedd adborth gan y rhai ddaeth i’r farchnad yn canmol yr awyrgylch croesawgar, o’r stondinwyr cyfeillgar i’n Siôn Corn poblogaidd ni ein hunain, yn ogystal â’r cabanau pren newydd a oedd yn ychwanegu naws draddodiadol i’r digwyddiad. Cafodd Eglwys San Silyn ei goleuo’n hyfryd ac roedd wedi’i gosod yn erbyn cefndir o ‘eira’ gan roi canolbwynt hudolus ar gyfer dathliadau’r Ŵyl.


Roedd y Farchnad Nadolig Fictoraidd hefyd yn cyd-fynd â lansiad swyddogol Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol sydd wedi eu hadnewyddu, gan ddathlu adfer y ddau adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi bod yn gonglfeini yng nghymuned Wrecsam ers amser. Croesawyd ymwelwyr i’r marchnadoedd golau, awyrog a chynnes gan Faer Wrecsam y Cynghorydd Beryl Blackmore a Mr Mohammed Anwar, un o fasnachwyr mwyaf hirsefydlog Wrecsam sydd wedi bod yn gwasanaethu ers dros 50 mlynedd. Fe ganodd Mr Anwar gloch Marchnad y Cigyddion a oedd wedi ei hadnewyddu, nodwedd hanesyddol a ddefnyddiwyd unwaith i nodi dechrau a diwedd pob diwrnod masnachu.


Mae’r ailagor eisoes wedi ennyn diddordeb sylweddol, gyda nifer gynyddol o fasnachwyr yn mynegi eu brwdfrydedd dros gael stondin yn y marchnadoedd sydd wedi eu hadnewyddu. Mae’r diddordeb hwn sydd o’r newydd yn amlygu’r rôl hanfodol mae’r marchnadoedd hyn yn parhau i’w chwarae mewn cefnogi busnesau lleol a chreu mannau cymunedol bywiog.


Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Twristiaeth a Busnes, a oedd yn bresennol yn y dathliadau: “Mae’r Farchnad Nadolig Fictoraidd eleni wedi bod yn llwyddiant anhygoel.  Roedd ymestyn y digwyddiad i bedwar diwrnod yn ein galluogi ni i groesawu mwy o ymwelwyr hyd yn oed i Ganol y Ddinas, ac roedd yr awyrgylch ym Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol yn anhygoel. “Mae’n galonogol i weld cynnig marchnadoedd Wrecsam yn tyfu unwaith eto, gan ddod â’r gymuned ynghyd, gan gefnogi masnachwyr a busnesau lleol ac ysgogi ymwelwyr yng nghanol y ddinas.  “Hefyd hoffwn ddiolch i’r timau Digwyddiadau a Chanol  y Ddinas am eu hymroddiad a’u gwaith caled i wneud ailagor y marchnadoedd a’r Farchnad Nadolig Fictoraidd yn llwyddiant mor ysgubol.”


Wrth i Farchnadoedd Wrecsam edrych tua’r dyfodol, caiff unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn rhan o’r bennod newydd gyffrous hon eu hannog i gysylltu ac archwilio cyfleoedd masnachu.


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Marchnadoedd Wrecsam: wrexhammarkets@wrexham.gov.uk.

Rhannu
Erthygl flaenorol Estyn Trefniadau Gweithio Cyngor Wrecsam dros y Nadolig 2024
Erthygl nesaf Groundwork Gogledd Cymru yn gofyn am Farn y Gymuned am Gynlluniau i Adfer Treftadaeth Dyffryn Clywedog Groundwork Gogledd Cymru yn gofyn am Farn y Gymuned am Gynlluniau i Adfer Treftadaeth Dyffryn Clywedog

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

off-gas
Pobl a lle

Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…

Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Pobl a lle

Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 15, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel

Ionawr 14, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English