Helpu plant i gyrraedd yr ysgol yn ddiogel yw un o’r pethau mwyaf pwysig a gwerth chweil y gallwch chi ei wneud…ydych chi’n cytuno?
Dyma ein barn ni, a dyna pam ein bod ni wrth ein boddau o fod yn dathlu 70 mlynedd ers i’r gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol gael ei gyflwyno ym 1953. Mae amser yn hedfan!
Yn Wrecsam, rydym ni’n rheoli 15 Hebryngwr Croesfannau Ysgol a nhw’n sy’n gyfrifol am sicrhau bod plant a cherddwyr yn croesi’r ffordd yn ddiogel ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol.
Os ydych chi wedi byw yn Wrecsam am gyfnod, mae’n debyg y byddwch chi wedi dod i adnabod rhai o’n Hebryngwyr (neu ‘merched lolipop/dynion lolipop’ fel maen nhw’n cael eu galw weithiau). Byddai’n wych clywed rhai o’ch atgofion chi dros y blynyddoedd – cadwch olwg am ein negeseuon cyfryngau cymdeithasol i ddathlu’r achlysur ac mae croeso i chi roi sylw. 🙂
“Cyfle gwych i ddathlu’r gwaith maen nhw’n ei wneud”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Mae’r Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn gwneud gwaith gwych wrth gadw pawb yn ddiogel ac mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu eu gwaith. Bydd pob Hebryngwr yn cael tystysgrif eleni i ddathlu 70 mlynedd ers i’r gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol gael ei gyflwyno, i gydnabod eu hymroddiad a’u gwasanaeth wrth helpu plant yng Wrecsam i groesi’r ffordd yn ddiogel.”
Disgyblion Wrecsam yn Arwyr Digidol – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.