20 Tachwedd 2023 – 4.30pm – 7.30pm yn Tŷ Pawb, Stryt y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BB
Mae dydd Llun 20 Tachwedd yn nodi Diwrnod Byd-eang y Plant sy’n dathlu hawliau plant ac eleni yw’r bedwaredd flwyddyn rydym wedi dathlu’r digwyddiad trwy gynnal digwyddiad am ddim ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd i fwynhau.
Bydd digon o adloniant a gweithgareddau am ddim gan gynnwys hud a lledrith, sgiliau syrcas, pryfaid, cerddoriaeth, paentio wynebau, modelu balwnau a llawer mwy.
Mae gennym hefyd y pleser o gwrdd â Chomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes a fydd yn agor y digwyddiad am 4.30pm a bydd y Comisiynydd a’r Maer, y Cynghorydd Andy Williams, yn cymryd rhan mewn digwyddiad cyflwyno tystysgrifau am 6pm.
Gwahoddir pawb i ddod draw gyda theulu a ffrindiau i fwynhau’r gweithgareddau a dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant.
Mae Diwrnod Byd-eang y Plant yn ddigwyddiad blynyddol
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, “Mae hwn yn dod yn ddigwyddiad poblogaidd ar galendr Wrecsam oherwydd gall pobl ifanc, eu ffrindiau a theuluoedd ddod ynghyd i ddathlu pobl ifanc ac i hyrwyddo eu lles a hawliau.
“Mae croeso i bawb a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn sicr o fwynhau.”
Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar youngvoices@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen – Lleoedd Croeso Cynnes yn dod i Lyfrgelloedd Wrecsam