Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 5 Rhagfyr….cadwch y dyddiad yn rhydd! Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > 5 Rhagfyr….cadwch y dyddiad yn rhydd! Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog Wrecsam
Pobl a lle

5 Rhagfyr….cadwch y dyddiad yn rhydd! Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 21, 2023 1:23 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
St Giles Church Wrexham
RHANNU

Y Nadolig hwn bydd Wrecsam yn cynnal ei Wasanaeth Carolau Cymuned y Lluoedd Arfog cyntaf erioed.

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn cael ei gynnal yn Eglwys San Silyn nos Fawrth, 5 Rhagfyr, gan ddechrau am 7pm. Mae croeso i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Wrecsam: “Mae yna gysylltiadau mor gryf gyda’r lluoedd arfog yn Wrecsam, ac rydym eisiau gwneud rhywbeth arbennig i ddathlu’r Nadolig a rhoi teyrnged i gyn-filwyr a’r dynion a merched anhygoel sydd yn gwasanaethu eu gwlad.

“Mae’n argoeli i fod yn noson hyfryd yn llawn ysbryd a cherddoriaeth y Nadolig, ac fe fyddem ni wrth ein bodd yn gweld cymaint o gyn-filwyr ac aelodau o’r cyhoedd yno ag sy’n bosibl.

“Dewch draw i helpu i’w gwneud hi’n noson wych.”

Fe fydd y gwasanaeth yn cynnwys Band Tywysog Cymru, sef un o’r 14 band rheolaidd ym Myddin Prydain.

Wedi’u lleoli yn Aberhonddu, mae’r cerddorion wedi teithio llawer ar ôl gwasanaethu yn Yr Almaen, Cyprus, Dubai, Kuwait ac Ynysoedd Falkland ac yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn stadiwm Wembley.

Bydd côr lleol hefyd yn perfformio, a bydd rhoddion yn mynd i elusen Scotty’s Little Soldiers.

Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones: “Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i elusen Scotty’s Little Soldiers oedd profiad gweddw Nikki Scott, a gollodd ei gŵr yn Affganistan yn 2009.

“Mae’n darparu cefnogaeth i gannoedd o blant a phobl ifanc ar draws y DU sydd wedi colli rhiant sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Prydeinig ar ryw adeg yn eu bywyd, ac mae’n gwneud gwaith anhygoel.

“Rydym ni mor falch o gefnogi’r elusen hon a gobeithio y bydd pobl Wrecsam yn dangos eu cefnogaeth ar 5 Rhagfyr drwy ddod draw i’r gwasanaeth carolau yn San Silyn.

“Mae hi’n mynd i fod yn noson hyfryd ac rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Yn defnyddio cludiant i’r ysgol? Yn defnyddio cludiant i’r ysgol?
Erthygl nesaf World Children's Day Dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English