Dathlwch Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yn Wrecsam gyda beirdd, sgyrsiau a gweithdai rhwng 10am a 9pm ar 3 Hydref yn Tŷ Pawb.
Bydd Voicebox yn cynnal diwrnod llawn o berfformiadau, sgyrsiau gan feirdd a chyhoeddwyr adnabyddus yn yr ardal, a gweithdai er mwyn i’r gymuned gymryd rhan. Yn ystod y diwrnod fe dynnir sylw at awduron lleol, stondin lyfrau annibynnol ac fe gynhelir sesiwn meic agored enwog Voicebox trwy gydol y diwrnod. Ar y sgrin fawr fe fydd yna fideos o brif berfformwyr a pherfformwyr meic agored y pum mlynedd diwethaf o archif Voicebox ar YouTube.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yn chwarter canrif eleni a dyma’r tro cyntaf y mae Voicebox wedi cynnal diwrnod llawn o weithgareddau yng nghanol y dref. Thema eleni ydi gwirionedd, a gall y cyhoedd ymuno mewn gweithdy neu gyfrannu at gasgliad o gerddi cymunedol, a fydd yn tyfu drwy gydol y diwrnod.
Sefydliad yn Wrecsam ydi Voicebox sydd yn tynnu sylw a rhoi sylw i dalent perfformio o’r ardal a denu enwau cenedlaethol i’r dref dros y pum mlynedd diwethaf.
Bydd Natasha Borton y bardd a’r berfformwraig yn arwain y diwrnod, a dywedodd: “Rydym ni’n gyffrous iawn am ddod â Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth i Wrecsam. Mae Voicebox wedi bod yn cefnogi llenyddiaeth a chelfyddydau perfformio yn yr ardal ers y pum mlynedd diwethaf. Mae Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yn esgus perffaith i ddynodi diwrnod llawn er mwyn dathlu beirdd, awduron, llenorion a’r gymuned.
“Rydym ni’n ddiolchgar i Tŷ Pawb am gynnal digwyddiad eleni, a dwi’n gobeithio mai’r cyntaf o nifer o ddigwyddiadau yn y dref fydd hwn”.
Ar y diwrnod, fe fydd yna gyfres o berfformiadau gan aelodau o’r Voicebox Collective a set gan Ben Wilson.
Mae Ben yn fardd a pherfformiwr geiriau llafar ac yn rhan o’r Voicebox Collective. Mae’n defnyddio rhythmau trwm, lleferydd tarawol, delweddaeth gyfoethog ac adrodd stori i danseilio problemau ein hunain a chymdeithas megis gwrywdod, arferion diwylliannol, cof, hunaniaeth ac iechyd meddwl. Mae ei ddylanwadu’n amrywio o’r swrrealydd Lewis Carrol i’r bardd a’r rapiwr Dizraeli. Mae ei lyfr cyntaf ‘anamnesis’ yn archwiliad gweledol o’r gair llafar a rhythm, gan gysylltu atgofion anghyflawn ynghyd, a thorri rhwystrau o apathi trwy adrodd stori.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN