Mae Castanwydden Bêr 484 o flynyddoedd oed ym Mharc Acton, Wrecsam wedi cael ei enwebu ar gyfer Coeden y Flwyddyn, cystadleuaeth a gynhelir gan Goed Cadw. Dyma’r unig goeden yng Nghymru i gael ei enwebu ac i ddathlu hyn, bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn y parc ddydd Sadwrn 8 Hydref o 12-4pm. Mae nifer o weithgareddau am ddim wedi’u cynllunio ar gyfer y diwrnod, gan gynnwys: crefftau, gemau a llwybr. Mae digwyddiadau cymunedol am ddim ym Mharc Acton wedi bod yn llwyddiant mawr yn y gorffennol, felly gobeithiwn am dywydd da.
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd : “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i warchod coed a choetir yn Wrecsam ac yn falch bod un o’n coed hynafol yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth.”
Mae coed hynafol yn rhyfeddod i’w mwynhau. Mae cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn eleni yn canolbwyntio ar goed hynafol mewn ardaloedd trefol ac mae’r Gastanwydden Bêr hon yn bendant wedi ennill ei statws fel coeden hynafol. Gan ddechrau ei fywyd ym 1539 pan oedd Brenin Harri’r VIII yn rheoli Prydain, a goroesi stormydd a phobl leol yn anrheithio trwy’r parc am goed tân ym 1945, mae’n dal i sefyll yn uchel a balch ym Mharc Acton hyd heddiw. Yn y digwyddiad, ymunwch â ni i ddysgu mwy am hanes y goeden ac ystyried: pe byddai coed yn gallu siarad, pa straeon fyddai’r Gastanwydden hon yn ei ddweud?
“Rydym yn cynnal digwyddiad yn y Parc i ddathlu ein Castanwydden Bêr. Mae’r goeden wedi bodoli ers 485 o flynyddoedd, ac rwy’n siŵr fod ganddi straeon gwych i’w rhannu petasai’n gallu. Mae derbyn yr enwebiad yn dangos pa mor lwcus ydym ni o gael coeden o’r fath yn ein parc”, dywedodd Kevin Roberts, cadeirydd Cyngor Cymuned Acton.
Bydd rhywbeth at ddant pawb yn y digwyddiad yn seiliedig ar y Gastanwydden Bêr ym Mharc Acton, ar ochr Ffordd Jeffreys. Dewch i roi cynnig ar rostio cnau castan a gwneud brownis cnau castan gyda’r Dosbarth Coetir. Archwiliwch hanes y goeden a darganfyddwch pam fod Canwriad Rhufeinig a’i wraig yn crwydro o amgylch. Byddwch yn greadigol gyda dail y goeden Gastanwydden, gan ddefnyddio natur i greu celf hardd. Bydd llwybr ar gyfer plant a thaith gerdded tywys gyda’r rheolwr coedyddiaeth, yn ogystal â phaentio wynebau a chwrs golff ar thema coed i roi cynnig arni!
Yn olaf, peidiwch â cholli’r gystadleuaeth gwisg hanesyddol gyda gwobrau. Dewiswch gyfnod yn oes y Gastanwydden Bêr i wisgo fyny! Gwisgwch fel tywysog neu dywysoges o oes y Tuduriaid neu’r cyfnod Sioraidd; ewch am thema Mary Poppins fel glanhawr simneiau Fictoraidd neu fel Nani. Os oes well gennych chi’r oes bresennol, efallai bydd unrhyw ddegawd yn y 1900au, o’r 20au i’r 60au yn siwtio. Gallwch hyd yn oed wisgo fel Rhufeiniwr er mwyn dathlu gwreiddiau’r Gastanwydden Bêr.
Dywedodd Clare Morgan o Goed Cadw, Mae Castanwydden Bêr Wrecsam yn annwyl iawn i’r bobl leol yn sgil ei hanes, gwerth a’i harddwch – ac mae’r digwyddiad hwn yn dyst o hynny. Byddwn yn annog pawb i bleidleisio am y goeden urddasol hon – byddai’n wych ei gweld yn cyrraedd y brig eleni yn y Gystadleuaeth Coeden y Flwyddyn!”
Nid yw dyddiad cau ar gyfer pleidleisio yn y gystadleuaeth Coeden y Flwyddyn tan 15 Hydref, felly os nad ydych wedi pleidleisio eto, mae amser i wneud hynny. Pleidleisiwch ar gyfer y Gastanwydden Bêr ym Mharc Acton, Wrecsam gan ddefnyddio’r ddolen hon Coeden y Flwyddyn – Coed Cadw
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i dudalen Facebook Cyngor Cymuned Acton neu anfonwch e-bost at countryparks@wrexham.gov.uk
Ychydig o ffeithiau am y Gastanwydden Bêr…
Mae Castanwydden Bêr Wrecsam yn dal!! Yn 24 metr o daldra! Mae hynny’n fwy tal na 5 bws dwbl deulawr ar ben ei gilydd!!
Mae Castanwydden Bêr Wrecsam yn fwytadwy!! Mae’r cnau castan felys yn flasus i’w bwyta ac yn draddodiadol i’w cael o gwmpas y Nadolig a gellir eu olrhain filoedd o flynyddoedd yn ôl pan ddaeth y Rhufeiniad â’r Gastanwydden Bêr i’r DU o Ewrop.
Mae Castanwydden Bêr Wrecsam yn hynafol!! Mae’r hen goeden yn dal i fodoli heddiw a hithau tua 484 oed sy’n golygu ei bod wedi dechrau tyfu yn 1539 pan yr oedd Brenin Harri’r VIII dal yn fyw
Mae Castanwydden Bêr Wrecsam yn gartref!! Yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt o gnocell y coed yn gwneud nythod yn ei boncyff, mae’r blodau yn darparu ffynhonnell bwysig o neithdar a phaill i wenyn a phryfaid eraill.
Mae Castanwydden Bêr Wrecsam yn llowciwr carbon! Mae hen goed fel Castanwydden Bêr Wrecsam yn wych am amsugno carbon allan o’r aer yn arbennig mewn ardaloedd trefol. Yr amcangyfrif ar gyfer faint mae’r goeden hon yn unig yn ei amsugno yw 6854kg o garbon y flwyddyn.
Mae Castanwydden Bêr Wrecsam yn hudol!! Yn gartref i ddrysau tylwyth teg, pyrth hud ac ysbrydion coed mae Castanwydden Bêr Wrecsam yn ysbrydoli teuluoedd lleol gyda’i phresenoldeb arallfydol. Mae straeon wedi cael eu rhannu o deuluoedd yn chwarae gemau hudol ac yn gwneud dymuniadau o dan ei changhennau cysgodol.