Dau ddigwyddiad plannu coed arall yn Wrecsam

Dyfroedd Alun

Mae dau ddiwrnod plannu coed ar y gweill ar gyfer dau safle arall yn Wrecsam.

  • Dydd Sadwrn, 4 Mawrth ym Clos Lincoln
  • Dydd Sadwrn, 18 Mawrth yn Llwyn Stockwell

Cynhelir y ddau ddigwyddiad rhwng 10am a 3pm.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Mae plannu coed yn weithgaredd addas i bobl o bob oed, felly ymunwch am sesiwn lawn hwyl i’r teulu yn plannu coed i sicrhau dyfodol mwy gwyrdd.  Sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad cynnes, esgidiau glaw a menig.

Darperir y coed drwy gynllun ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’ Llywodraeth Cymru sy’n anelu at ddosbarthu coeden am ddim i bob aelwyd yng Nghymru.  Y nod yw dosbarthu 295,000 o goed.  Caiff y coed eu dosbarthu gan 50 o ganolfannau cymunedol o amgylch Cymru.

Ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi le i blannu coeden, gan y bydd yr opsiwn ‘Plannu Coeden i Mi’ dan y cynllun Fy Nghoeden, Ein Coedwig yn eich galluogi i gael coeden wedi’i phlannu ar eich rhan ac mae gennym safleoedd dynodedig ar draws Wrecsam i blannu’r coed hyn.

Mae nifer o blant ac oedolion o ysgolion a chymunedau lleol eisoes wedi helpu i blannu dros 3000 o goed ffrwythau a choed llydanddail brodorol yn ac o amgylch Parc Acton, Parc Pry’ Copyn ac Ystâd Llwyn Onn.

Rydym hefyd yn gweithio gydag ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol, ac os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at woodlandpledge@wrexham.gov.uk

Gallwch hefyd helpu i ddiogelu coed a choetiroedd yn Wrecsam drwy Addewid Coetir Wrecsam ar ein gwefan.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]