Ystyried y dyfodol – Cynllun y Cyngor 2023-28

Aqueduct

Os nad ydych eisoes wedi darllen y newyddion, rydym yn gofyn i chi gymryd rhan wrth siapio ein Cynllun y Cyngor – y ddogfen sy’n rhoi syniadau ynghyd o sut ddylai Wrecsam edrych yn y dyfodol, a sut i gyrraedd yno.

Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yw Wrecsam ble mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, ffynnu a chyflawni safon uchel o les, a bydd y cyngor yn arweinydd cymunedol cryf a chynhwysol i helpu i wneud i hyn ddigwydd.

I wneud hyn, rydym wedi nodi chwe maes i ganolbwyntio arnynt y credwn fydd fwyaf o fudd i’n cymunedau ac rydym yn gofyn i chi adael i ni wybod os ydych yn meddwl os ydym wedi dewis y rhai cywir yn ein hymgynghoriad yn y ddolen ar ddiwedd yr erthygl hon.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Rydym yn awyddus i’ch cynnwys yn y gwaith o lunio Cynllun y Cyngor a hoffem wybod beth yw eich barn. Rydym am nodi canlyniadau penodol y gallwn ganolbwyntio arnynt ac y gallwn fesur cynnydd yn eu herbyn.  Dyma’r canlyniadau y credwn fydd fwyaf buddiol i’n cymunedau.

Ar ôl ei orffen, defnyddir y cynllun i gefnogi penderfyniadau ynghylch sut rydym yn dyrannu arian ac adnoddau eraill. Bydd gwasanaethau pwysig eraill yn parhau i gael eu darparu a bydd manylion y rhain yn cael eu cynnwys yn ein cynlluniau busnes a gwasanaeth mewnol.

Rydym yn gofyn i chi edrych ar Gynllun y Cyngor drafft i ganfod beth rydym yn anelu tuag ato, ac os ydych yn cytuno fod y prif flaenoriaethau y rhai cywir i’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth, i gyfrannu at nodau lles Cymru, ac i sicrhau fod pawb yn cael eu trin yn deg.

Os hoffech chi ein helpu i siapio Cynllun y Cyngor, llenwch yr arolwg ar-lein erbyn 14 Mawrth 2023 drwy fynd i www.yourvoicewrexham.com

Os nad ydych chi’n gallu cwblhau’r arolwg ar-lein, mae copïau papur (Cymraeg a Saesneg) ar gael yn y cyfeiriadau canlynol: Y Ganolfan Les, Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG; Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY, swyddfeydd stadau tai, llyfrgelloedd lleol, a Chanolfannau Clyd eraill ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Os hoffech chi lenwi’r arolwg ar ffurf neu iaith arall, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni.

E-bost: telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk

Post: Dywedwch Eich Barn, Anecs y 3ydd Llawr, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]