Mae dau fusnes ar Stryt Caer yn Wrecsam, sef siop farbwr Fresh Fades a siop harddwch Lash Lab, wedi derbyn rhybudd cosb benodedig o £1000 am agor eu safleoedd a chynnig gwasanaeth i gwsmeriaid yn ystod y cyfnod clo presennol.
Mae’r gyfraith yn eithaf clir na chaiff rhai safleoedd agor a chynnig gwasanaeth i gwsmeriaid ar hyn o bryd er mwyn atal lledaeniad y coronafeirws. Mae hefyd yn glir iawn y dylai pobl adael eu cartrefi am resymau hanfodol yn unig.
“Mae hyn yn dangos diffyg parch llwyr at y gyfraith “
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae hyn yn dangos diffyg parch llwyr at y gyfraith a diogelwch y gymuned ar adeg pan mae Wrecsam â chyfradd uchaf yr haint yng Nghymru. Nid oes esgusodion am hyn, rydym i gyd yn ymwybodol o’r rheolau, ac mae gan bawb eu rhan i’w chwarae er mwyn gostwng cyfraddau’r haint a dod â’r cyfnod clo i ben cyn gynted â phosibl. Mae Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru wedi cael eu plesio’n arw gyda’r ymateb gan y mwyafrif helaeth o fusnesau yn Wrecsam, sydd wedi gwneud popeth sydd angen iddynt ei wneud, gan gynnwys cau eu busnesau ar gost sylweddol i’w hunain mewn nifer o achosion.”
“Oherwydd y perygl i iechyd y cyhoedd ac er mwyn cefnogi’r busnesau sy’n cydymffurfio â’r gyfraith, mae Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd a Swyddogion yr Heddlu yn hynod o wyliadwrus ynghylch unrhyw rai sy’n torri’r rheolau a byddant yn barod iawn i roi dirwyon i fusnesau sydd ddim yn cydymffurfio, ynghyd â chwsmeriaid a gweithwyr sy’n rhan o hynny. Bydd perchnogion busnesau sydd ddim yn cau, fel y gofynnir yn ôl y gyfraith, yn wynebu dirwy o £1000 am y tro cyntaf, gan godi yn y pen draw at £10000 am unrhyw achosion wedi hynny.
“Peidiwch â chael eich temtio i agor eich busnes a thorri’r rheolau presennol. Mae hynny’n cynnwys gweld cwsmeriaid ym mhreifatrwydd eich cartref eich hun neu eu cartrefi nhw er mwyn cynnig gwasanaethau fel trin gwallt, trin ewinedd, triniaethau harddwch neu wasanaethau tebyg.”
“Mae’r rheolau yno i’n diogelu ni”
Dywedodd Arolygydd Tref Wrecsam, Luke Hughes, “Mae’r neges yn glir, os byddwch yn cael eich dal yn torri’r rheolau fel hyn, byddwch yn cael eich dirwyo a byddwch o bosib yn wynebu camau gweithredu pellach. Mae’n hynod o siomedig gweld rhai busnesau, eu staff a’u cwsmeriaid yn ymddwyn mewn modd sy’n torri rheolau’r cyfnod clo.
“Mae’r rheolau yno i’n diogelu ni ac mae’r rhan fwyaf o bobl a busnesau’n deall hyn ac yn fodlon cydymffurfio ac aberthu’r hyn sydd ei angen er lles pawb.”
Derbyniodd y ddau gwmni ddirwy o £1,000 a rhoddwyd dirwy o £60 yr un i’r cwsmeriaid a’r gweithwyr hynny a oedd yn bresennol. Bydd ymchwiliadau’n parhau i’r achosion hyn o dorri’r rheolau.
CANFOD Y FFEITHIAU