Amlygwyd tafarndai gorau’r wlad yng Nghanllaw Tafarndai 2020 a gyhoeddwyd gan AA yr wythnos hon.
Yn cynnwys cyfanswm o 2,000 o dafarndai ar draws y DU, sy’n enwog am gwrw da a bwyd gwych, mae rhifyn 21 y canllaw hefyd yn cynnwys 500 o ‘ddewisiadau’ sy’n cynrychioli’r tafarndai gorau y mae AA yn eu hargymell ymhob rhanbarth, a ddewiswyd gan arolygwyr, y tîm golygu ac awgrymiadau gan ddarllenwyr.
O’r ’dewisiadau’ hynny – mae’r Hand yn Llanarmon a Pant-yr-Ochain wedi’u cynnwys fel rhai o dafarndai gorau Cymru.
Mae’r anrhydedd yn un o falchder arbennig i’r tîm yn yr Hand yn Llanarmon, sy’n cael ei redeg yn annibynnol gan y perchnogion Jonathan a Jackie Greatorex. Yn eu pedwaredd flwyddyn o redeg yr Hand, mae’r busnes wedi adeiladu enw da am eu lletygarwch arbennig, a’u bwydlen tymhorol, gan y prif gogydd Grant Mulholland, sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad ar hyd y B4500 drwy Ddyffryn Ceiriog – un o’r teithiau â’r golygfeydd mwyaf ysblennydd yn Sir Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd ac Adfywio, “Mae cael eu cynnwys yn y Canllaw Tafarndai 2020 yn gyflawniad arbennig o dda, a hoffwn longyfarch yr Hand yn Llanarmon a Phant-yr-Ochain, ac i bawb sydd wedi’u cynnwys.”
Gan ddathlu’r gamp, dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Jonathan Greatorex wrthym;
“Mae’r anrhydedd diweddaraf yn brawf o waith caled a lletygarwch y tîm yma yn yr Hand. O’r staff blaen y tŷ, i’r cogyddion, i’r glanhawyr – mae pob un ohonom yn teimlo’n angerddol dros ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf i’r bobl leol ac i ymwelwyr. Rydym wedi dathlu agor ein Sba ‘Pump House’ newydd hefyd, sy’n gymhelliad ychwanegol i ymweld â’r Hand, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu llawer mwy o ymwelwyr i Ddyffryn Ceiriog yn ystod yr haf.”
Mae’r Canllaw Tafarndai 2020 yn cynnig canllaw manwl i dafarndai’r DU fesul sir, gyda disgrifiad manwl o bob tŷ tafarn, o gyfeiriadau ac oriau agor, a yw’r dafarn yn addas i blant a chŵn, dewisiadau parcio a gardd, i gipolwg ar gynigion cwrw, seidr a gwin y dafarn.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN! DOES DIM OTS GEN