Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen #DawnsGlaw – Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Arall
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > #DawnsGlaw – Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad
Arall

#DawnsGlaw – Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad

Diweddarwyd diwethaf: 2021/03/16 at 2:26 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Bonfires
RHANNU

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy’n dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny’n bosibl, dileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Bydd y tasglu, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2016 i fynd i’r afael â’r achosion o gynnau tanau glaswellt yn fwriadol ledled Cymru, hefyd yn rhoi sylw i’r cynnydd mewn tanau damweiniol, a achosir yn aml o ganlyniad i’n hymddygiad diofal ein hunain pan fyddwn allan yn mwynhau yng nghefn gwlad.

Yn ystod 2020, deliodd y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru â 2,253 o danau glaswellt. Er bod hyn yn gynnydd bach o’i gymharu â 2019, roedd nifer y tanau damweiniol yn ystod 2020 wedi cynyddu 20%. Priodolwyd y cynnydd hwn yn rhannol i’r nifer ohonom a dreuliodd fisoedd y Gwanwyn a’r Haf yn mwynhau ein cefn gwlad lleol oherwydd y cyfyngiadau symud a oedd ar waith o ganlyniad i bandemig COVID-19 – ac wrth i ni gychwyn ar flwyddyn arall lle mae’n debygol y byddwn yn aros yma yng Nghymru ar gyfer ein gwyliau, mae’r Tasglu yn awyddus i sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn modd diogel, gan sicrhau ein bod yn diogelu’r cefn gwlad, y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd gwerthfawr rydym oll mor falch i’w cael ar y stepen drws.

Dywedodd Mydrian Harries, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Chadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw, “Rwy’n credu ei bod yn drawiadol dros ben ein bod yn lansio ein hymgyrch ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni wrth i ni apelio at ein natur wladgarol, gan erfyn ar bawb i gydweithio i ddiogelu’r glaswelltir a’r ardaloedd cefn gwlad yr ydym i gyd mor ffodus i’w cael ar ein stepen drws.

“Er ein bod yn gwybod bod y tywydd cynnes a brofwyd gennym yn ystod misoedd cynnar yr haf y llynedd wedi cyfrannu at y cynnydd bach mewn tanau glaswellt ledled Cymru, rydym hefyd yn gwybod bod nifer y tanau a gynnwyd yn ddamweiniol wedi cynyddu yn ogystal. “Er bod damweiniau’n digwydd, gellir eu hosgoi hefyd, a bydd ymgyrch eleni yn canolbwyntio ar ein haddysgu ni i gyd ynghylch rhai o’r camau bach y gallwn eu cymryd i sicrhau nad ydym yn achosi tân glaswellt trwy ddamwain.

“Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu ein neges, er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai eraill yn ein cymunedau sy’n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig y mae hyn yn drosedd y byddant yn cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn gosod pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â throseddau o’r fath i ffonio 101, neu i gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111”.

Mae’r Ymgyrch hefyd yn parhau â’i gwaith gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, gan eu hatgoffa, er y gallant losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth yn ardaloedd yr ucheldir), mae’n rhaid bod ganddynt Gynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi’n ddiogel. Mae’n anghyfreithlon llosgi y tu allan i’r tymor llosgi, a gall arwain at gosbau o hyd at £1000.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am #DawnsGlaw 2021 trwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru https://www.tancgc.gov.uk/cym/newyddion/o-dan-sylw/dawnsglaw/ lle gallwch hefyd gael hyd i awgrymiadau diogelwch syml a lawrlwytho negeseuon diogelwch yr ymgyrch i’w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun. Gyda’n gilydd gallwn atal tanau glaswellt a diogelu ein cefn gwlad a’n gwlad.

Cofiwch – Os ydych allan yn mwynhau yng nghefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Rhannu
Erthygl flaenorol Nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd - 16 Mawrth 2021 Nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd – 16 Mawrth 2021
Erthygl nesaf Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam Mae Cyfrifiad 2021 ar ei anterth yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Arall Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Landlords
Arall

Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam

Awst 12, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall

Arolwg Cyflwr Gofalu 2025

Gorffennaf 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English