Rydym i gyd yn gwybod am y gwaith caled y mae gofalwyr yn ei wneud – yn wirfoddol ac yn broffesiynol.
Er mwyn cydnabod eu hymdrechion, ac i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr, bydd Wythnos Gofalwyr yn cael ei chynnal o ddydd Llun, Mehefin 11 i ddydd Gwener, Mehefin 15 – ac rydym yn cymryd rhan.
Un peth yr ydym wirioneddol eisiau ei wneud yn ystod yr Wythnos Gofalwyr hon yw cysylltu â’r bobl hynny sy’n rhoi llawr iawn o ofal ond er hynny ddim yn meddwl amdanyn nhw eu hunain fel gofalwyr – ac sydd o bosibl yn dechrau teimlo dan straen oherwydd pwysau’r rôl ofalu.
Bydd gofalwyr yn aml yn teimlo dan straen, ac oherwydd eu gwaith caled a’r sylw maen nhw’n ei roi i sicrhau lles rhywun arall, maen nhw weithiau’n anghofio gofalu amdanyn nhw eu hunain.
A gall hynny arwain at bwynt sydd ddim yn llesol iddyn nhw na’r sawl sydd dan eu gofal.
Os ydych chi’n gofalu am rywun ac yn teimlo fod pethau’n mynd yn anodd, rydym eisiau eich helpu chi.
Gadewch i ni eich cynorthwyo.
Rydym bob amser eisiau helpu pobl mor gynnar â phosibl, a’u helpu nhw i aros yn annibynnol cyn hired a phosibl.
A rhan o hynny yw helpu gofalwyr.
Rydym eisiau gallu rhoi’r cymorth y mae arnynt ei angen ac yn hytrach na’u bod yn dechrau teimlo dan bwysau mawr, gall ein hadran Gofal Cymdeithasol Oedolion gamu i mewn a rhoi help llaw.
Ac yn yr hirdymor, gall hynny helpu rhywun i aros yn eu cartref a chadw eu hannibyniaeth, yn hytrach na gorfod troi at drefniadau gofal mwy ffurfiol.
Asesiad o Anghenion Gofalwyr
Gyda hynny mewn golwg, rydym yn gofyn i ofalwyr sydd o bosibl yn teimlo dan bwysau – neu sy’n meddwl y gallai hynny ddigwydd yn fuan – i gysylltu â ni am asesiad o anghenion gofalwyr.
Mae’r asesiadau hyn yn rhoi cyfle i ni edrych ar lefel y gofal y bydd y fath bobl yn ei roi ac a oes unrhyw gefnogaeth y gallwn ni ei rhoi iddyn nhw.
Os ydych yn teimlo eich bod yn darparu’r lefel o ofal a nodir uchod, beth am gysylltu â ni am asesiad o anghenion gofalwyr?
Wedi’r cyfan, does dim gwell amser i wneud hynny nag yn ystod Wythnos Gofalwyr!
Am ragor o wybodaeth am asesiadau o anghenion gofalwyr, cysylltwch â’r adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar (01978) 318812
“Mae mwy nag un o bob deg yn ofalwyr di-dâl’.
Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae gofalwyr yn gwneud gwaith anhygoel ac yn aml iawn dydyn nhw ddim hyn yn oed yn ystyried eu hunain yn ofalwyr.
“Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae dros 15,000 o bobl – tua 11 y cant o boblogaeth gyfan Wrecsam – yn dweud eu bod yn rhoi gofal di-dâl, sydd gyfwerth ag un o bob deg o holl boblogaeth Wrecsam.
“Ac maen nhw’n teimlo y gallai eu lles fod yn dioddef oherwydd eu bod yn defnyddio eu hegni i gyd yn gofalu, ac rydym eisiau gallu eu helpu nhw.
“Os oes unrhyw un yn teimlo eu bod nhw yn y sefyllfa honno, rwy’n eu hannog i gysylltu â ni am asesiad o anghenion gofalwyr.
“Hyd yn oed os yw hynny ddim ond am ychydig oriau’r wythnos, bydd hynny’n haen hollbwysig o ofal a fydd yn cadw rhywun yn annibynnol, ac rydym eisiau cadw’r haen honno’n gadarn’.
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL