Yn ddiweddar, gwnaethom gynnal gwiriadau bathodyn glas yng nghanol y ddinas yn cynnwys meysydd parcio’r Llyfrgell a Byd Dŵr, Stryt Egerton, Stryt y Dug, Ffordd Sant Marc, Stryt y Priordy, Stryt y Rhaglaw, Stryt y Brenin, Ffordd Rhosddu, llefydd parcio i’r anabl yng Ngorsaf Fysiau Wrecsam, Rhan Uchaf Allt y Dref, y Stryt Fawr a Stryt Yorke. Cafodd yr ardaloedd hyn eu dewis gan eu bod yn lleoedd ble mae defnydd uchel o’r bathodyn glas.
Roedd deiliaid bathodyn yn croesawu’r gwiriadau yn cael eu cwblhau gan swyddogion gorfodi’r Cyngor. Cafodd cyfanswm o 167 o fathodynnau glas eu gwirio ar y diwrnod a rhoddwyd cyngor penodol ar sut i ddefnyddio’r bathodyn yn gywir ac ardaloedd ble gellir defnyddio bathodynnau. Daeth swyddogion o hyd i un bathodyn yn unig oedd wedi mynd heibio’r dyddiad terfyn a dau achos posibl o gamddefnydd.
Dywedodd y Cyng Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb am orfodi parcio, “Mae’r system bathodyn glas wedi’i fwriadu ar gyfer y sawl ag anabledd gwirioneddol ac nid yw’n dderbyniol fod pobl yn camddefnyddio’r system bathodyn. Mae’n dda gwybod fod deiliaid bathodyn yn gadarnhaol am y gwiriadau ac yn eu croesawu. Dro ar ôl tro rydym yn gweld ceir mewn mannau parcio i’r anabl heb fathodyn glas. Nid yw’n deg ar y sawl sydd wirioneddol angen parcio yn y mannau hyn ac nid oes gennym unrhyw oddefgarwch ato.”
“Gwnewch yn siŵr nad yw’r system bathodyn yn cael ei gamddefnyddio er mwyn sicrhau bod y sawl sydd â hawl iddo yn gallu ymgymryd â’u tasgau dyddiol gydag annibyniaeth a pharch.”
Hawliau a Chyfrifoldebau Cynllun Bathodyn Glas
Gallwch wybod mwy am sut i ddefnyddio’r bathodyn glas yn gywir ar wefan Llywodraeth Cymru, Y Cynllun Bathodyn Glas: hawliau a chyfrifoldebau yng Nghymru
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Mae Motorfest Wrecsam yn dychwelyd eto yn 2024