Ydych chi erioed wedi sylwi ar yr holl goed yn ardal Wrecsam, yn y cefn gwlad agored, yn y parciau gwledig a’r mannau agored cyhoeddus sy’n ein huno ni gyd?
Efallai bod hyn yn swnio’n gwestiwn twp, ond meddyliwch am y peth.
Sawl gwaith ydych chi wedi stopio i edrych ar goeden yn ddiweddar? Sawl gwaith ydych chi wedi gweld coeden newydd yn cael ei phlannu yn ddiweddar? Neu sawl gwaith ydych chi wedi gweld coeden yn cael ei thorri’n ddiweddar?
Mae coed, a’r ‘isadeiledd gwyrdd’ y maent yn cyfrannu’n helaeth ato, yn rhan o’n tirwedd – ac os nad ydym ni’n ofalus – gallwn ei gymryd yn ganiataol.
Mae ein coed yn allweddol bwysig: maent yn cael gwared â llygredd ac yn gwella ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu, yn casglu carbon, yn lleihau’r perygl o lifogydd, yn lleihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, maent yn darparu cynefin pwysig iawn i’n bywyd gwyllt sydd dan fygythiad, yn helpu i gefnogi’r ecosystem yr ydym yn byw ynddi; ac yn gwella ein hiechyd a’n lles.
Felly mae’n bwysig ein bod yn deall mai nid dim ond ‘rhywbeth del i edrych arnynt’ yw coed, a’n bod yn ymwybodol ac yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i sicrhau y cânt eu rheoli’n briodol.
Dyma pam bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn hapus ac yn falch iawn i fod â strategaeth coed a choetiroedd ar waith: strategaeth sydd nid yn unig yn amlinellu sut yr ydym yn gofalu ac yn gwarchod y coed ar draws y Fwrdeistref, ond mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn plannu mwy o goed dros y blynyddoedd i ddod ac yn annog cymunedau a busnesau lleol i gydweithio â ni er mwyn plannu mwy o goed a helpu i sicrhau bod Wrecsam yn lle mwy ecogyfeillgar i fyw a gweithio yno.
Coed Cadw
Rydym wedi cael canmoliaeth yn ddiweddar gan Goed Cadw, elusen gadwraeth fwyaf y DU, sy’n ymgyrchu i warchod a chadw coed a choetiroedd ar draws y wlad.
Mewn cyhoeddiad diweddar (dolen gyswllt Saesneg), mae Coed Cadw wedi rhoi canmoliaeth arbennig i’n ‘Strategaeth Coed a Choetiroedd,’ gan nodi ein bod yn dref “coed-gyfeillgar” sydd â strategaeth coed “wych”; mae hyd yn oed yn nodi y gallai cynghorau eraill ddysgu o’r gwaith yr ydym wedi’i wneud.
Dywedodd Joe Coles, Arweinydd Prosiect Coed Cadw dros Goed Stryd: “Mae hi’n gyfnod heriol i goed mewn ardaloedd trefol ar hyn o bryd, o ganlyniad i ddiffyg pridd addas, gwrthdaro â thiroedd caled, plâu, afiechydon, dirywiad mewn ansawdd aer a newid hinsawdd!
“Er bod ein coed yn wynebu’r anawsterau hyn, maent hefyd yn rhan o’r datrysiad. Mae Cyngor Wrecsam yn cydnabod hyn, ac wedi ymrwymo i’w reolaeth barhaus – strategaeth i sicrhau bod coed yn parhau i fod wrth wraidd canol ein trefi… ac mae’r cyngor eisiau i goed barhau i fod yn agos at galonnau trigolion Wrecsam.”
Dywedodd Jon Brewin, un o ddau o Swyddogion Coedyddiaeth Cyngor Wrecsam: “Mae cydnabyddiaeth Coed Cadw yn arwydd gwych o hyder yn ein gwaith, ac mae eu cefnogaeth a’u hyrwyddiad parhaus o’n Strategaeth wedi bod yn anhepgorol.”
“Rwy’n falch iawn o sylwadau Coed Cadw”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn o sylwadau Coed Cadw a’u hyder yn ein strategaeth coed. Rydym wedi gweithio’n galed ar y strategaeth hon, a bydd y gwaith hwnnw yn amlinellu sut yr ydym yn ymdrin â’n coed a’r gobaith yw y bydd yn cynyddu nifer y coed yn ein trefi a’n pentrefi dros y blynyddoedd nesaf.
“Rydym yn amlwg yn ymwybodol o arbenigedd Coed Cadw yn y maes rheoli coed, felly mae’r ffaith ein bod wedi derbyn canmoliaeth mor arbennig ganddynt yn wych.”
Am wybodaeth bellach yn ymwneud â’n Strategaeth Coed a Choetiroedd, neu ynghylch y manteision a’r arbedion ariannol y mae ein coed yn ei olygu i gymunedau neu am sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rheoli ei stoc goed o ddydd i ddydd, ymwelwch â thudalen hafan coed ar ein gwefan.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I