Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch at eich coed
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dewch at eich coed
Pobl a lleY cyngor

Dewch at eich coed

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 12, 2018 10:53 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Dewch at eich coed
RHANNU

Ydych chi erioed wedi sylwi ar yr holl goed yn ardal Wrecsam, yn y cefn gwlad agored, yn y parciau gwledig a’r mannau agored cyhoeddus sy’n ein huno ni gyd?

Cynnwys
  • Coed Cadw                                                                            
  • “Rwy’n falch iawn o sylwadau Coed Cadw”

Efallai bod hyn yn swnio’n gwestiwn twp, ond meddyliwch am y peth.

Sawl gwaith ydych chi wedi stopio i edrych ar goeden yn ddiweddar? Sawl gwaith ydych chi wedi gweld coeden newydd yn cael ei phlannu yn ddiweddar? Neu sawl gwaith ydych chi wedi gweld coeden yn cael ei thorri’n ddiweddar?

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Mae coed, a’r ‘isadeiledd gwyrdd’ y maent yn cyfrannu’n helaeth ato, yn rhan o’n tirwedd – ac os nad ydym ni’n ofalus – gallwn ei gymryd yn ganiataol.

Mae ein coed yn allweddol bwysig: maent yn cael gwared â llygredd ac yn gwella ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu, yn casglu carbon, yn lleihau’r perygl o lifogydd, yn lleihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, maent yn darparu cynefin pwysig iawn i’n bywyd gwyllt sydd dan fygythiad, yn helpu i gefnogi’r ecosystem yr ydym yn byw ynddi; ac yn gwella ein hiechyd a’n lles.

Felly mae’n bwysig ein bod yn deall mai nid dim ond ‘rhywbeth del i edrych arnynt’ yw coed, a’n bod yn ymwybodol ac yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i sicrhau y cânt eu rheoli’n briodol.

Dyma pam bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn hapus ac yn falch iawn i fod â strategaeth coed a choetiroedd  ar waith: strategaeth sydd nid yn unig yn amlinellu sut yr ydym yn gofalu ac yn gwarchod y coed ar draws y Fwrdeistref, ond mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn plannu mwy o goed dros y blynyddoedd i ddod ac yn annog cymunedau a busnesau lleol i gydweithio â ni er mwyn plannu mwy o goed a helpu i sicrhau bod Wrecsam yn lle mwy ecogyfeillgar i fyw a gweithio yno.

Coed Cadw                                                                            

Rydym wedi cael canmoliaeth yn ddiweddar gan Goed Cadw, elusen gadwraeth fwyaf y DU, sy’n ymgyrchu i warchod a chadw coed a choetiroedd ar draws y wlad.

Mewn cyhoeddiad diweddar (dolen gyswllt Saesneg), mae Coed Cadw wedi rhoi canmoliaeth arbennig i’n ‘Strategaeth Coed a Choetiroedd,’ gan nodi ein bod yn dref “coed-gyfeillgar” sydd â strategaeth coed “wych”; mae hyd yn oed yn nodi y gallai cynghorau eraill ddysgu o’r gwaith yr ydym wedi’i wneud.

Dywedodd Joe Coles, Arweinydd Prosiect Coed Cadw dros Goed Stryd: “Mae hi’n gyfnod heriol i goed mewn ardaloedd trefol ar hyn o bryd, o ganlyniad i ddiffyg pridd addas, gwrthdaro â thiroedd caled, plâu, afiechydon, dirywiad mewn ansawdd aer a newid hinsawdd!

“Er bod ein coed yn wynebu’r anawsterau hyn, maent hefyd yn rhan o’r datrysiad. Mae Cyngor Wrecsam yn cydnabod hyn, ac wedi ymrwymo i’w reolaeth barhaus – strategaeth i sicrhau bod coed yn parhau i fod wrth wraidd canol ein trefi… ac mae’r cyngor eisiau i goed barhau i fod yn agos at galonnau trigolion Wrecsam.”

Dywedodd Jon Brewin, un o ddau o Swyddogion Coedyddiaeth Cyngor Wrecsam: “Mae cydnabyddiaeth Coed Cadw yn arwydd gwych o hyder yn ein gwaith, ac mae eu cefnogaeth a’u hyrwyddiad parhaus o’n Strategaeth wedi bod yn anhepgorol.”

“Rwy’n falch iawn o sylwadau Coed Cadw”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn o sylwadau Coed Cadw a’u hyder yn ein strategaeth coed. Rydym wedi gweithio’n galed ar y strategaeth hon, a bydd y gwaith hwnnw yn amlinellu sut yr ydym yn ymdrin â’n coed a’r gobaith yw y bydd yn cynyddu nifer y coed yn ein trefi a’n pentrefi dros y blynyddoedd nesaf.

“Rydym yn amlwg yn ymwybodol o arbenigedd Coed Cadw yn y maes rheoli coed, felly mae’r ffaith ein bod wedi derbyn canmoliaeth mor arbennig ganddynt yn wych.”

Am wybodaeth bellach yn ymwneud â’n Strategaeth Coed a Choetiroedd, neu ynghylch y manteision a’r arbedion ariannol y mae ein coed yn ei olygu i gymunedau neu am sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rheoli ei stoc goed o ddydd i ddydd, ymwelwch â thudalen hafan coed ar ein gwefan.

Mae rhaid i ni neud mwy o doriadau… a gofyn i dalwyr treth am fwy o arian. Ond cyn i ni fynd ymlaen, rydym ni yn eisiau’ch barn.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN[/button]

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN I[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Oh What a Lovely War yn cael ei dangos yn Nhŷ Pawb Oh What a Lovely War yn cael ei dangos yn Nhŷ Pawb
Erthygl nesaf Global watchdog warns of scammers stockpiling counterfeit goods Swnio’n rhy dda i fod yn wir?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English