Mae cyfres o ddigwyddiadau galw heibio yn cael eu cynnal yr wythnos hon i bobl sydd am gael gwybod mwy am y cynllun tai Gofal Ychwanegol newydd ar Ffordd Grosvenor.
Dyluniwyd y cynllun gofal ychwanegol ym Maes y Derwen, gyda gwerth o £10.5 miliwn i bobl lleol dros 60 oed sy’n dymuno byw’n annibynnol mewn cartref gyda thawelwch meddwl o fynediad 24 awr i gefnogaeth gofal.
Mae’r cynllun yn ddatblygiad partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Dai Tŷ Glas, rhan o’r Grŵp dai Pennaf, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y rhandai newydd i’w hunain neu i aelod o’r teulu.
Gallwch alw heibio i gwrdd â’r tîm sy’n cynnal digwyddiadau gwybodaeth yn Amgueddfa Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw yn ddyddiol rhwng 13 ac 17 Mawrth, a bydd cyfle hefyd i drefnu ymweliad i’r rhandy arddangos newydd yn y cynllun.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Cyfle i ymgeisio
Meddai Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Y Cyng. Joan Lowe: “Mae’r cynllun yn ddewis gwych i bobl gyda gofalwr neu sydd angen cefnogaeth, ond eto yn dymuno cadw annibyniaeth o fyw yn eu cartref eu hunain, ac mae’n newyddion da y bydd y datblygiad ar agor yr haf hwn,”
Ychwanegodd Carol Thomas, Rheolwr Gofal Ychwanegol ar gyfer y Grŵp Tai Pennaf:
“Rydym eisoes wedi derbyn sawl cais gan bobl sydd eisiau byw yng Nghynllun Maes y Dderwen, ond mae cyfle i ymgeisio o hyd, yn amodol ar feini prawf penodol, ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod mwy o ymgeiswyr newydd posib neu eu teuluoedd yn y digwyddiadau gwybodaeth.”
Ariennir Maes y Dderwen ar y cyd gyda Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a nawdd Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid mewn partneriaeth gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghyd â chyllid preifat a drefnwyd gan Grŵp Tai Pennaf.
Opsiwn tai newydd ar gyfer y dref
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, y Cynghorydd David Griffiths: “Bydd y cynllun hwn yn cynnig dewis tai newydd hanfodol yn y dref a fydd yn darparu ar gyfer pobl ag ystod eang o anghenion gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd angen ychydig oriau o gefnogaeth yr wythnos i rai sydd ag anghenion uwch a allai fod yn ystyried symud i gartref gofal preswyl. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y digwyddiadau dydd agored i weld a allent elwa o’r math hwn o lety.”
Meddai’r Aelod Lleol dros Grosvenor, y Cyng. Marc Jones: “Mae’n dda gweld bod yr adeilad bellach yn agosáu at gwblhau, yn enwedig i’r rhai ohonom sy’n byw yn lleol ac wedi gweld y safle allweddol hwn yn y dref yn cael ei drawsnewid yn gynllun tai modern modern iawn. Rwy’n gobeithio y bydd yr opsiynau byw annibynnol sydd ar gael yma yn dod yn opsiwn tai defnyddiol iawn yn y rhan hon o’r dref ac y bydd y trigolion newydd yn dod yn rhan o’r gymuned leol.”
- Bydd y sesiynau gwybodaeth galw heibio yn Amgueddfa Wrecsam yn cael eu cynnal rhwng 10.00am–4pm ar 14, 15 ac 16 Mawrth, a rhwng 11.30am–2.30pm ddydd Sadwrn 17 Mawrth
- Bydd unrhyw nad ydynt yn gallu mynd ond â diddordeb mewn rhagor o wybodaeth yn gallu ffonio 0800 183 5757 neu e-bost enquiries@tyglas.co.uk
COFIWCH EICH BINIAU