Y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) ar gyfer Gogledd Cymru yw’r strategaeth i gyflawni system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy, fforddiadwy ac integredig ar draws y rhanbarth.
Mae sesiwn ymgysylltu wedi’i drefnu ar gyfer dydd Llun 7 Ebrill yn Llyfrgell Wrecsam 10-1pm a 3-5.45pm.
Gallwch ddysgu mwy am y cynllun trafnidiaeth a dweud eich dweud ar-lein yma
Bydd cyflawni’r cynllun a’i flaenoriaethau, unwaith y cytunir arnynt, yn cefnogi’r economi i ffynnu yn y tymor hir ac mae’n hanfodol ar gyfer gwella cysylltedd, a gwella ansawdd bywyd trigolion ac ymwelwyr. Trwy flaenoriaethu buddsoddiadau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith teithio llesol ar gyfer beicio a cherdded, a datblygu atebion symudedd arloesol, nod y CTRh yw lleihau dibyniaeth ar ddefnyddio ceir preifat a hyrwyddo opsiynau teithio mwy ecogyfeillgar.
Yn ogystal, mae’r cynllun yn pwysleisio pwysigrwydd lleihau effaith amgylcheddol negyddol ein rhwydwaith trafnidiaeth, gan gyfrannu at ymrwymiad Gogledd Cymru i gynaladwyedd a lliniaru newid hinsawdd.
Bydd cyflawni’r CTRh a’i flaenoriaethau’n llwyddiannus yn cefnogi’r economi ranbarthol, yn gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau, ac yn creu system drafnidiaeth fwy cysylltiedig a gwydn ar gyfer y dyfodol.
Trwy gydweithio ag awdurdodau lleol, awdurdod y parc cenedlaethol, Trafnidiaeth Cymru, busnesau lleol, a chymunedau, bydd y CTRh yn helpu Gogledd Cymru i drosglwyddo i rwydwaith trafnidiaeth fwy cynaliadwy ac integredig, a fydd o fudd i bawb yn y rhanbarth.
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Trafnidiaeth Strategol: “Mae datblygu trafnidiaeth ranbarthol ar gyfer Gogledd Cymru er budd preswylwyr ac ymwelwyr yn rhywbeth fydd yn effeithio ar bob un ohonom, felly mae’n bwysig dweud eich dweud ar yr hyn yr hoffech ei weld, naill ai yn ein sesiwn wyneb yn wyneb neu ar-lein. “Bydd yr ymgynghoriad ar-lein yn parhau hyd at 14 Ebrill.”