Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dweud eich dweud ar gynlluniau ar gyfer gorsaf drafnidiaeth newydd a gwaith adfywio ehangach yng Ngorsaf Wrecsam Cyffredinol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dweud eich dweud ar gynlluniau ar gyfer gorsaf drafnidiaeth newydd a gwaith adfywio ehangach yng Ngorsaf Wrecsam Cyffredinol
Pobl a lleArall

Dweud eich dweud ar gynlluniau ar gyfer gorsaf drafnidiaeth newydd a gwaith adfywio ehangach yng Ngorsaf Wrecsam Cyffredinol

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 4, 2025 12:38 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Cgi impression of the proposed transport hub in Wrexham
RHANNU

Gall aelodau’r cyhoedd rannu eu barn ar gynigion cyffrous i drawsnewid yr ardal o amgylch gorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol.

Cynnwys
  • Dweud eich dweud ar-lein
  • Dweud eich dweud wyneb yn wyneb

Mae’r cynllun yn cael ei gyflawni gan Bartneriaeth Porth Wrecsam, sy’n cynnwys Cyngor Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru, Prifysgol Wrecsam a Llywodraeth Cymru, a bydd yr ymgynghoriad yn weithredol tan 12 Mai.

Mae’r cynigion yn cynnwys:

  • Gorsaf drafnidiaeth newydd o flaen yr orsaf, gan gynnig gwell cyfnewidfa rhwng rheilffyrdd, bysiau a dulliau eraill o deithio, yn ogystal â gwell llwybrau cerdded, olwyno a beicio.
  • Datblygiad masnachol arwyddocaol newydd.
  • Sgwâr cyhoeddus a chynllun tirlunio newydd, a fydd yn helpu i gyfleu neges ‘Croeso i Ddinas Wrecsam’ i ymwelwyr.
  • Gwell seilwaith ffyrdd.
Rhannwch eich sylwadau

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae proffil Wrecsam yn cynyddu ac mae’r ddinas yn denu gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, a bydd y cynllun cyffrous hwn yn ein helpu i fynd o nerth i nerth – gan greu opsiynau teithio mwy cydlynol a helpu i ddenu buddsoddiad masnachol.

“Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i roi adborth cyn i’r cynlluniau gael eu cwblhau a’u cyflwyno i gael caniatâd cynllunio amlinellol, felly byddwn i’n annog pawb i gymryd rhan a rhannu eu barn.”

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David A Bithell, sydd hefyd yn gyfrifol am drafnidiaeth strategol: “Mae’n bwysig ein bod yn parhau i foderneiddio a gwella seilwaith trafnidiaeth yn Wrecsam.

“Rydym isio i bobl allu rhyngweithio’n hawdd â gwahanol fathau o drafnidiaeth, ond mae angen i ni gael hyn yn iawn, felly mae’n bwysig bod pobl yn rhannu eu barn gyda’r bartneriaeth.”

Dweud eich dweud ar gynlluniau ar gyfer gorsaf drafnidiaeth newydd a gwaith adfywio ehangach yng Ngorsaf Wrecsam Cyffredinol

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae’r cynllun ailddatblygu ar gyfer yr ardal o amgylch Gorsaf Gyffredinol Wrecsam yn gyfle cyffrous i wella enw da Wrecsam fel cyrchfan flaenllaw i ymwelwyr, gan ddenu mwy o bobl i’r ddinas, tra’n darparu gwell mynediad at gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar y rheilffyrdd a ffyrdd.”

“Rydym yn falch o fod yn bartner yn y cynllun hwn ac yn edrych ymlaen yn fawr at glywed barn pobl ar sut mae’r cynlluniau hyn yn cael eu gweithredu.”

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru: “Fel rhan o’n hymrwymiad i adeiladu Rhwydwaith Trafnidiaeth integredig yng Nghymru, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r bartneriaeth i ddatblygu’r cynlluniau hyn, gan roi Gorsaf Gyffredinol Wrecsam wrth wraidd y cynigion.

“Rydym yn croesawu’r cyfle i wella cysylltiadau rhwng rheilffyrdd a bysiau’n sylweddol ac ar gyfer gwell llwybrau i gerdded, olwyno a beicio yn Wrecsam, yn ogystal â gwella profiad cyffredinol i gwsmeriaid yn yr orsaf.

“Mae Gorsaf Gyffredinol Wrecsam yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith teithio yn Wrecsam, felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud pethau’n iawn a bydd adborth gan y gymuned yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen.”

Dweud eich dweud ar-lein

Gallwch lenwi’r arolwg byr ar-lein a rhoi eich barn i ni.

Mae’r cyfnod ymgysylltu yn agor ar 31 Mawrth ac yn rhedeg tan 12 Mai.

Dweud eich dweud wyneb yn wyneb

Yn ogystal â chymryd rhan ar-lein, bydd dau ddigwyddiad galw heibio lle gallwch ddysgu mwy a gofyn cwestiynau:

  • Gorsaf Wrecsam Cyffredinol (Station Approach, Wrecsam LL11 2AA) – 1 Ebrill o 10am tan 4pm.
  • Tŷ Pawb (Market Street, Wrecsam LL13 8BB) – 9 Ebrill o 10am tan 4pm.

Bydd ffurflenni adborth papur hefyd ar gael yn y digwyddiadau galw heibio, neu gellir eu casglu o swyddfa docynnau Gorsaf Wrecsam Cyffredinol a Llyfrgell Wrecsam (Ffordd Rhosddu, Wrecsam LL11 1AU).

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i ddarganfod mwy am y Cynllun Trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru Dewch i ddarganfod mwy am y Cynllun Trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru
Erthygl nesaf Gwybodaeth Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Mawrth 2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English