Mae arddangosfa newydd sy’n dathlu treftadaeth bêl-droed gyfoethog Cymru yn dechrau mewn ychydig wythnosau- ac fe’ch gwahoddir i fod yn rhan ohoni!
Bydd Pêl-Droed Am Byth yn adrodd hanes pêl-droed yng Nghymru a Chymru mewn pêl-droed.
Mae’n agor yn Amgueddfa Wrecsam ym mis Gorffennaf – cartref casgliad pêl-droed Cymru yn Wrecsam.
Mae’r Amgueddfa ar hyn o bryd yn chwilio am wirfoddolwyr i’w helpu yn ystod yr arddangosfa.
Felly os ydych chi’n hoffi pêl-droed neu hanes lleol Wrecsam (neu’r ddau!) yna dyma fydd y ffordd berffaith i fwynhau eich angerdd, cwrdd â ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn rhywbeth rydych chi’n ei garu!
Gallwch ddewis oriau hyblyg i gyd-fynd â’ch argaeledd a bydd hyfforddiant llawn ar gael.
Mae’n agored i unrhyw un dros 16 oed.
Darganfyddwch fwy
I ddarganfod mwy dewch draw i un o’r sesiynau ‘cyfarfod a chyfarch’ yn yr Amgueddfa:
- Dydd Sadwrn Gorffennaf 6, 1pm–2pm
- Dydd Iau Gorffennaf 11, 10.30am-11.30am
Neu cysylltwch â ni: museumvolunteers@wrexham.gov.uk
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN