Mae noson fythgofiadwy o loddesta a hwyl canoloesolyn eich disgwyl yn Amgueddfa Wrecsam hefo Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru mis Hydref hwn!
Fe’ch cyfarchir wrth gyrraedd yr Amgueddfa gan ein Meistr Seremonïau.
Bydd llymaid o fedd Cymreig yn aros amdanoch wrth i chi gael eich hebrwng i’n hystafell wledda brydferth, ac yna bydd yr adloniant cerddorol a’r gloddesta ar fwydydd lleol yn cychwyn.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON
Bwytewch, yfwch a byddwch lawen
Bydd y wledd yn arddangos y cynnyrch bwyd anhygoel sydd ar gael gan gynhyrchwyr lleol.
Cwrs cyntaf: cawl llysiau gyda thwmplenni a bara wedi ei bobi’n lleol gan Johnstown Bakery.
Prif gwrs: un ai Coes oen blasus (gan Geo.C.Hughes, Marchnad y Cigyddion, Wrecsam – gwerthwr cig o safon) neu Bastai cyw iâr a Ham haenog (gan Roberts Country Fayre – Bersham Wrecsam) gyda detholiad gwych o lysiau tymhorol lleol a grefi cyrens coch.
Pwdin: ein pwdin arobryn “Nefoedd ar y Ddaear” – blasau anhygoel siocled mêl â sbeis gyda throell sitrws ffres, a hufen iâ espresso frappé hufennog gydag aeron ffres a ffrwythau.
Mae hwn yn bwdin arbennig iawn sydd wedi’i orffen yn fendigedig gyda blodyn bwytadwy hyfryd. (Cyflenwyr lleol i gyd – Eat My Flowers, Celtic Honeysmith, Hufen Iâ Chilly Cow, Aballu Artisan Chocolatier, Mrs Picklepot ac Wyau Fferm Nant Ucha.
Diod: Medd (Mountain Mead Ltd).
Gwnewch frys, ac archebwch eich lle
- Cynhelir Noson yn yr Amgueddfa: Gwledd Ganoloesol yn Amgueddfa Wrecsam ddydd Sadwrn, Hydref 19, 7.30pm–10.30pm
- Pris y tocynnau yw £45 (safonol) a £55 (arglwydd a dynes a fydd yn derbyn coronau)
- Cliciwch yma i archebu’ch tocynnau nawr!
- Mae gwisgoedd ar gael o www.costume-company.co.uk
- Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Amgueddfa Wrecsam ar 01978 297460 neu e-bostiwch Museum@wrexham.gov.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN