Dewch i ddysgu mwy am hanes, treftadaeth ac archeoleg Gogledd-ddwyrain Cymru yn digwyddiad a fydd yn hwyliog ac yn gyfeillgar i deuluoedd!
Cynhelir Ffair Dreftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ar gwrt blaen Amgueddfa Wrecsam ddydd Sadwrn, 27 Gorffennaf.
Stondinau, ysgrifenyddion a milwyr Rhufeinig!
Byddwch yn gallu cwrdd ag aelodau o’r Fforwm Treftadaeth a dysgu mwy o dreftadaeth gyfoethog yr ardal trwy arddangosion ac arddangosfeydd ar y gwahanol stondinau.
Bydd rhai o’r sefydliadau sy’n mynychu yn cynnwys Neuadd Coffa Ceiriog, Adran Hanes Prifysgol Glyndŵr ac Archifau Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Mae mynediad AM DDIM drwy’r dydd a bydd gweithgareddau i blant.
Bydd y gwesteion yn cynnwys Milwr Rhufeinig o Deithiau Rhufeinig Caer a Sgriw Canoloesol!
Bydd yr Amgueddfa ar agor i ymwelwyr fel y gallwch gael rywbeth i fwyta yn y caffi a gweld yr arddangosfa Pêl-droed newydd!
Ble a phryd
- Cynhelir y ffair yn Amgueddfa Wrecsam ddydd Sadwrn, Gorffennaf 27, 11.00am-3.30pm
- Mae mynediad AM DDIM drwy’r dydd!
I gael rhagor o wybodaeth:
Rhif ffôn 01978 297 460 neu e-bost museum@wrexham.gov.uk
Dilynwch Amgueddfa Wrecsam ar facebook a twitter
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN