Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i gael golwg ar y cynlluniau ar gyfer canolfannau hamdden newydd Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dewch i gael golwg ar y cynlluniau ar gyfer canolfannau hamdden newydd Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Dewch i gael golwg ar y cynlluniau ar gyfer canolfannau hamdden newydd Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 13, 2017 10:48 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Dewch i gael golwg ar y cynlluniau ar gyfer canolfannau hamdden newydd Wrecsam
RHANNU

Efallai i chi sylwi ar y gwaith sy’n mynd ymlaen mewn canolfannau hamdden ledled Wrecsam.

Cynnwys
  • Delweddau 3D o gynlluniau’r Byd Dŵr
  • Diolch i’r defnyddwyr am eu hamynedd tra buom ni’n gosod y lifft newydd

Mae Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid, Freedom Leisure, wrthi’n gweithio ar gynllun hirhoedlog i wella cyfleusterau hamdden ar hyd a lled yr ardal.

Lluniodd y ddau gytundeb y gwanwyn diwethaf, gyda Freedom Leisure yn cymryd rheolaeth ar bedair canolfan hamdden a gweithgareddau a phum cyfleuster chwaraeon defnydd deuol.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Ers hynny, mae’r Cyngor a Freedom Leisure wedi cychwyn ar gynllun buddsoddi £2.7 miliwn, gyda’r bwriad o ailwampio’r pedair canolfan – yn ogystal â chreu caeau 3G newydd mewn safleoedd ar draws yr ardal.

Bydd y gwelliannau, fydd yn cyflwyno’r cyfarpar campfa mwyaf modern a chyfleusterau newydd, yn cynnig ffyrdd newydd i aelodau gadw’n heini.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi, sydd â chyfrifoldeb am Hamdden: “Bu i mi agor y cyfleusterau newydd gwell yng Nghanolfan Hamdden Gwyn Evans yng Ngwersyllt yn ddiweddar, yn ogystal â Stadiwm Queensway ym Mharc Caia.

“Gwnaed gwelliannau gwerth dros £50,000 i Ganolfan Gwyn Evans, a gwerth dros £80,000 i Stadiwm Queensway.

“Roeddwn i’n llawn edmygedd o’r gwelliannau yn y ddau le – ond dydi’r rhain ond rhan o’r rhaglen welliannau sy’n cael ei chyflawni gennym ni yng Nghyngor Wrecsam a Freedom Leisure.

Mae rhestr lawn o welliannau yn yr arfaeth ar gyfer Y Waun a Byd Dŵr, gyda buddsoddiad ar y cyd o dros £2 filiwn i’r ddau.”

Ychwanegodd Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure: “Mae hanner cyntaf y flwyddyn hon yn bendant wedi bod yn brysur iawn gyda’r holl wahanol welliannau i’r cyfleusterau cymunedol rhagorol hyn yn Wrecsam.

“Gyda dau gae 3G newydd a thair campfa wedi’u hadnewyddu, mae gennym drydydd cae 3G newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Morgan Llwyd, sy’n gadael y gwelliannau mawr i’r Byd Dŵr ar ôl i ni eu datgelu ddiwedd yr haf!

“Rydym yn gweithredu’r cyfleusterau hyn mewn partneriaeth â’r Cyngor, ac yn hynod ddiolchgar am eu buddsoddiad hwy yn y gwelliannau – rydym ni’n fwy na dim ond gweithredwr canolfannau hamdden, ac yn ymfalchïo mewn creu cymunedau gweithgar.”

Delweddau 3D o gynlluniau’r Byd Dŵr

Mae Freedom Leisure wedi datgelu delweddau 3D o’r Byd Dŵr ar ei newydd wedd, ac mae’r fideo i’w gweld yma:

Diolch i’r defnyddwyr am eu hamynedd tra buom ni’n gosod y lifft newydd

Mae Cyngor Wrecsam a Freedom Leisure hefyd yn falch o gael cyhoeddi, yn ychwanegol at y gwaith gwella arfaethedig, bod lifft newydd wedi’i osod yn y Byd Dŵr.

Roedd y lifft gwreiddiol wedi torri ers peth amser. Ni fu ymdrechion i drwsio’r lifft yn llwyddiannus, felly penderfynwyd gosod lifft newydd i wneud yn siŵr y gallai pob un o ddefnyddwyr y ganolfan barhau i ddefnyddio’r cyfleusterau ar y llawr cyntaf.

Ychwanegodd y Cynghorydd Rogers: “Rydw i hefyd yn falch iawn o weld y lifft newydd yn gweithio yn y Byd Dŵr – mae defnyddwyr y ganolfan wedi bod yn amyneddgar iawn wrth i ni osod y lifft newydd, a dylid diolch iddynt am hynny.”

Meddi Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure: “Hoffwn ategu neges o ddiolch y Cynghorydd Rogers i gwsmeriaid y Byd Dŵr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn. Fel y nodais yn flaenorol, nid oedd y ffaith bod y lifft wedi torri ers cymaint o amser yn fuddiol i ni, ac roeddem eisiau cael lifft oedd yn gweithio yn y Byd Dŵr cyn gynted ag y gallem.

“Mae defnyddwyr y Ganolfan wedi bod yn amyneddgar iawn trwy gydol y gwaith ar y lifft, ac mae’n bleser gen i adrodd y gwobrwywyd eu hamynedd, gan fod y lifft yn gweithio yn llawer cynt na’r disgwyl.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.freedom-leisure.co.uk/welsh/

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Pa mor wyrdd ydi’ch gardd chi? Darganfyddwch sut i gadw'n ecogyfeillgar Pa mor wyrdd ydi’ch gardd chi? Darganfyddwch sut i gadw’n ecogyfeillgar
Erthygl nesaf Edrychwch ar y canllaw defnyddiol am ddim hwn i gael gweld gweithgareddau dros wyliau’r haf Edrychwch ar y canllaw defnyddiol am ddim hwn i gael gweld gweithgareddau dros wyliau’r haf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English