Mae Llyfrgelloedd Wrecsam yn cyflwyno…Dyfeiswyr Direidi!
Mae 2018 yn nodi 80 mlwyddiant Beano! Ac i ddathlu, dyna hefyd ydi thema Sialens Ddarllen yr Haf eleni.
Yn unrhyw un o’n llyfrgelloedd, bydd plant yn archwilio map o Beanotown i ddod o hyd i’r trysor cudd dirgel er mwyn bod yn ddyfeiswyr direidi penigamp! Bydd Dennis, Dannedd ei gi a’u ffrindiau’n eu helpu i ddatrys cliwiau a chasglu sticeri, gan fwynhau llawer o hwyl ac antur ar hyd y ffordd!
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Y llynedd, bu 761,758 o blant yn rhan o’r sialens. Mae ar agor i blant rhwng 4 ac 11 oed ac mae’n gofyn iddynt ddod i’r llyfrgell dair gwaith a darllen chwe llyfr dros wyliau’r haf.
Mae’r sialens eleni wedi dechrau’n barod! Felly, ewch i’ch llyfrgell leol i gofrestru’ch plentyn a derbyn eu pecyn. Fe fyddant wedyn yn cael sticeri bob tro maen nhw’n ymweld ac yn cael medal a thystysgrif ar y diwedd!
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN