Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mynd i’r afael â Masnachwyr Twyllodrus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mynd i’r afael â Masnachwyr Twyllodrus
Pobl a lleY cyngor

Mynd i’r afael â Masnachwyr Twyllodrus

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2018 12:03 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mynd i’r afael â Masnachwyr Twyllodrus
RHANNU

Rydym yn ymwybodol o’r effaith a gaiff bygythiad masnachwyr twyllodrus ar gymunedau – yn enwedig y peryglon i bobl ddiamddiffyn neu’r henoed.

Cynnwys
  • Mae twyllwyr masnach yn ymddangos yn gwrtais i ddechrau..
  • “Effaith negyddol iawn”

Mae ardal Wrecsam wedi cael ei thargedu gan fasnachwyr twyllodrus yn y misoedd diweddar.  Wrth weithio mewn partneriaeth, mae ein tîm Safonau Masnach a’n cydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru wedi cynnal patrolau yn ein cymunedau lleol i fynd i’r afael â throseddau stepen drws a mynd ar drywydd masnachwyr twyllodrus a’r gweithgareddau troseddol cysylltiedig.

Daeth y Swyddogion a oedd yn gysylltiedig â’r patrolau o hyd i eiddo wedi ei ddwyn a chynorthwyo i ddod o hyd i ddyn y mae’r heddlu yn chwilio amdano, llwyddom hefyd i gasglu llawer o wybodaeth a fydd yn ein helpu i atal troseddau stepen drws yn y dyfodol.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Mae’r peryglon y gallai’r troseddwyr hyn eu hachosi i bobl ddiamddiffyn neu’r henoed yn achos pryder.

Caiff pobl eu dal allan yn aml ac mae rhywbeth sy’n dechrau fel cnoc cwrtais ar y drws tŷ neu bamffled drwy’r blwch llythyrau yn aml yn arwain at drafodaeth am waith ar y tŷ.

Mae twyllwyr masnach yn ymddangos yn gwrtais i ddechrau..

I ddechrau, mae masnachwyr twyllodrus yn ymddangos yn gwrtais, yn gyfeillgar ac eisiau helpu.

Ond dim ots pa mor gyfeillgar maen nhw’n ymddangos, mi wna nhw wthio pobl ddiamddiffyn i gytuno ar waith drud nad oes ei angen, sy’n gallu dwysáu allan o reolaeth yn sydyn iawn.

Yn dilyn hynny, bydd y troseddwyr proffesiynol, trefnedig hyn yn troi yn fygythiol ac yna’n mynnu cael symiau enfawr o arian.  Mi wna nhw hyd yn oed hebrwng pobl i’w banc i dynnu arian allan, ac yn anffodus, rydym yn aml yn eu gweld yn pigo ar yr un bobl.

Gall y math yma o drosedd gael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl, gan wneud iddyn nhw deimlo cywilydd, yn unig ac yn ddiamddiffyn yn eu cartrefi eu hunain.

Ni ddylai neb deimlo’n ddiamddiffyn o fewn eu cartrefi.

“Effaith negyddol iawn”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaeth, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Gall masnachwyr twyllodrus fel troseddwyr ar stepen drws gael effaith negyddol iawn ar ein cymunedau, a gallant wneud bywyd yn anodd yn enwedig i’r henoed neu unigolion diamddiffyn, sydd yn aml iawn y mwyaf tebygol o fod yn darged i drosedd o’r fath.

“Os oes unrhyw un yn dod ar draws pobl yn gwerthu ar stepen eu drws, mae gan bawb yr hawl i wrthod cynigion – dim ots pa mor gwrtais y mae’r gwerthwr yn ymddangos. Os yw’r gwerthwyr yn dechrau ymddangos yn benderfynol, yn amheus neu’n dreisgar, gall aelodau o’r cyhoedd gysylltu â gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Wrecsam ar 01978 298997 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu ffonio 999 mewn argyfwng.

“Os yw perchnogion tai yn teimlo bod gwaith angen ei wneud ar eu tai, cynghorir nhw i gysylltu â masnachwyr dibynadwy, yn hytrach na delio â gwerthwyr stepen drws heb eu gwahodd.“

Bydd ein tîm Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i gydweithio i fynd i’r afael â’r drosedd hon, a gweithio i amddiffyn a diogelu ein cymunedau.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Safle Mynwent Wrecsam ymhlith y mannau gwyrdd sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd Safle Mynwent Wrecsam ymhlith y mannau gwyrdd sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd
Erthygl nesaf Dewch i ni wneud direidi! Dewch i ni wneud direidi!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English