Gallwch yn awr edrych o amgylch Amgueddfa Wrecsam heb adael eich cartref trwy ein taith rithwir ryngweithiol newydd sbon!
Dewch i weld yr orielau, siop, caffi, archifau, Parth Dychymyg a mwy. Edrychwn am y mannau gwybodaeth o amgylch yr adeilad. Gallwch glicio ar y rhain i ddatgelu mwy o wybodaeth am yr hyn rydych yn edrych arno.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Trwy gydol y pandemig rydym wedi gwneud llawer o waith i ddatblygu cynnig digidol yr amgueddfa. Mae hyn wedi cynnwys gwefan newydd sbon, gweithgareddau gwyliau ar-lein i deuluoedd a’r gyfres hynod boblogaidd o negeseuon cyfryngau cymdeithasol hanes lleol ‘Canllaw dechreuwyr i Wrecsam’ .
“Mae’r daith rithwir newydd yn caniatáu i’r cyhoedd weld yr holl fannau cyhoeddus o un o adeiladau mwyaf eiconig Wrecsam a chael mwy o wybodaeth a beth sydd ar gael. Yn ogystal â gwneud yr amgueddfa yn fwy hygyrch ar-lein, mae’r daith hefyd yn gyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymweld am y tro cyntaf.”
Sylwer: mae orielau ac archifau’r amgueddfa ar gau ar hyn o bryd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae’r caffi a’r siop dal ar agor fel yr arfer – 11am-4pm dydd Llun-Sadwrn
https://www.treftadaethwrecsam.cymru/taith-rithiol-yr-amgueddfa/?xdomain_data=UkgvPKevAtsmA8YwJH2GQJFHwS5d5TKroLsO0KP50cZGtuVTUG5OMNwjmhHzFPtJ” target=”_blank”>I weld y daith ewch i’n gwefan
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG