Mae’r dyddiadau ar gyfer cyfarfod cyn y gwrandawiad a’r gwrandawiadau llawn mewn perthynas â’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) wedi’u cyhoeddi.
Cynhelir Cyfarfod Cyn y Gwrandawiad ddydd Mawrth, 25 Mehefin, bydd yr Arolygwyr yn amlinellu’r cwestiynau allweddol i’w hateb a’r gweithdrefnau a ddilynir yn ystod yr Archwiliad Cyhoeddus, yn arbennig o ran sesiynau’r gwrandawiad, a fydd yn dechrau ddydd Mawrth, 3 Medi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Arolygydd Arweiniol Siân Worden BA, MCD, DipLH, MRTPI ac Arolygydd Cynorthwyol Melissa Hall BA (Hons), BTP, MSc, MRTPI o’r Arolygiaeth Gynlluniau i gynnal yr archwiliad.
Bydd y gwrandawiadau yn cwmpasu amryw o faterion a nodir gan yr Arolygwyr ac yn canolbwyntio ar gadernid cyffredinol y Cynllun, gelwir hyn yn Archwiliad Cyhoeddus.
Bydd agenda’r Cyfarfod Cyn y Gwrandawiad ar gael ar-lein ar https://wrexham-consult-cy.objective.co.uk/portal
Bydd yr Arolygydd yn asesu cadernid y Cynllun yn ei gyfanrwydd, yn hytrach nac ystyried gwrthwynebiadau unigol, a bydd hi’n selio ei dyfarniad ar y dystiolaeth sydd ar gael, y sylwadau a wnaed ac amgylchiadau penodol y Cynllun a’r ardal.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN