Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles
Busnes ac addysg Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Plastic Free July - reusable water bottle
Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd

Diweddarwyd diwethaf: 2025/07/25 at 9:59 AM
Rhannu
Darllen 7 funud
Plastic Free July - reusable water bottle
RHANNU

Weithiau mae’n anodd rhoi’r gorau i wneud y pethau rydych chi wedi hen arfer â’u gwneud. Mae gan bob un ohonom ein harferion unigol ein hunain. Y drefn arferol a’r pethau bach rydyn ni’n eu gwneud bob dydd. Maen nhw’n rhan annatod ohonom ac rydym yn eu gwneud nhw heb feddwl.

Cynnwys
“Fe welwch fod eitemau y gellir eu hailddefnyddio ar gael yn aml”Dewis ailddefnyddioPoteli dŵr amldroCwpanau coffi amldroBenthyca a Thrwsio – pam prynu pan allwch chi fenthyg?Peidiwch ag anghofio am y siop ailddefnyddio

Ond mae’n dda cymryd ennyd i ystyried ein harferion. Mae yna newidiadau y gallwn eu gwneud i’n harferion dyddiol ‘bach’ a fydd yn cael effaith fawr os ydym yn parhau i’w gwneud dros gyfnod hir…a dyma sut bydd ailddefnyddio’n helpu’r amgylchedd yn y tymor hir.

“Does gen i ddim amynedd gwneud hynny…”

“Mae’n haws peidio â gwneud…”

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

“Beth yw’r pwynt?”

Mae’n normal cael amheuon ynglŷn â gwneud newid newydd a pharhaus i’ch trefn arferol. Ond os ydych chi’n barod i wneud yr ymdrech, ac yn dymuno gwneud gwahaniaeth, fe fyddwch chi’n gwneud eich cyfraniad ystyrlon eich hun at greu Wrecsam gwell a glanach.

“Fe welwch fod eitemau y gellir eu hailddefnyddio ar gael yn aml”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Os cymerwch y cam cyntaf i osgoi defnyddio cymaint o eitemau untro ag y gallwch, fel pecynnu plastig o fargen pryd bwyd, neu gwpanau a photeli plastig sy’n aml yn hawdd eu prynu wrth fynd, gallwch wneud gwahaniaeth go iawn yn Wrecsam.

“Os ydych chi’n barod i roi’r gorau i’r arfer, fe welwch fod eitemau y gellir eu hailddefnyddio ar gael yn aml, sy’n llawer mwy cynaliadwy, ac yn debygol o arbed arian i chi yn y tymor hir.”

Dewis ailddefnyddio

Dyma rai enghreifftiau lle gellid cyflwyno eitemau amldro i’ch bywyd pob dydd.

Poteli dŵr amldro

Ydych chi’n rhywun sy’n prynu potel o ddŵr ar eich ffordd i’r gwaith bob dydd? Nawr bod y tywydd ychydig yn gynhesach, efallai’ch bod hyd yn oed yn prynu mwy nag un y dydd. Os felly, meddyliwch am faint o boteli untro rydych chi’n eu defnyddio bob wythnos/mis/blwyddyn.

Efallai ei bod hi’n bryd ystyried prynu potel ddŵr amldro a’i llenwi cyn i chi fynd allan? Byddwch yn helpu’r amgylchedd a bydd eich waled/pwrs yn hapusach o lawer hefyd.

Os ydych chi’n mwynhau ymweld â’n parciau gwledig, dylech edrych ar y gorsafoedd ail-lenwi dŵr defnyddiol sydd gennym ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr a Pharc Bellevue.  Talwyd amdanynt gan ddefnyddio cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru ac mae’r gorsafoedd yn caniatáu i chi ychwanegu at eich potel ddŵr amldro wrth i chi fwynhau eich taith gerdded.

Hefyd, os yw’n well gennych flas dŵr wedi’i hidlo, wyddoch chi fod hidlyddion dŵr amldro ar gael i’w defnyddio gartref neu wrth fynd?

Newidiwch yr arfer a dewiswch ailddefnyddio.

Cwpanau coffi amldro

Efallai’ch bod yn prynu paned o goffi wrth fynd bob dydd? Os felly, beth am brynu cwpan coffi amldro yn hytrach na chael un untro bob tro.

Maen nhw’n dod yn fwyfwy poblogaidd ac mae’r mwyafrif o siopau coffi yn hapus i lenwi’ch cwpan os gofynnwch iddyn nhw. Mae rhai siopau coffi hyd yn oed yn cynnig gostyngiad am ddod â’ch cwpan coffi amldro eich hun!

Benthyca a Thrwsio – pam prynu pan allwch chi fenthyg?

Gyda Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb, gallwch gael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnoch heb wario gormod. Mae’n ffordd gost-effeithiol ac ecogyfeillgar o gael yr eitemau sydd eu hangen arnoch, yn union pryd y mae eu hangen arnoch.

O beiriannau gwnïo i offer gwersylla, tŵls i gyflenwadau parti, mae yna ddigon o eitemau defnyddiol y gallwch eu llogi am gost fach (o’i gymharu â’r hyn y byddech chi’n ei dalu i brynu’r eitem newydd eich hun).

Gall fod yn ateb gwych os mai dim ond am gyfnod byr y mae angen i chi ddefnyddio rhywbeth. Mae’r cynllun benthyca a dychwelyd yn helpu i leihau gwastraff diangen ac yn osgoi gorfod talu pris llawn am rywbeth na fydd ei angen arnoch yn aml iawn.

Darllenwch fwy am hyn yn ein blog Benthyca a Thrwsio.

Peidiwch ag anghofio am y siop ailddefnyddio

Os ydych chi’n awyddus i ddechrau ailddefnyddio, dylech ymweld â siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos.

Mae wedi’i lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, ac mae ar agor rhwng 9am a 5pm, saith diwrnod yr wythnos!

Yn y siop ailddefnyddio gallwch brynu llu o eitemau ail-law sydd mewn cyflwr gwych, fel offer chwaraeon, sugnwyr llwch, pramiau, dodrefn, beiciau, dodrefn gardd, a setiau teledu am bris rhagorol.

Mae’r holl eitemau a gaiff eu rhoi’n cael eu glanhau a’u profi i sicrhau eu bod yn ddiogel cyn cael eu rhoi ar werth yn y siop ailddefnyddio, felly mae’n werth ymweld.

Neu os ydych chi am gael gwared ar eitemau yn hytrach na phrynu, ydych chi wedi ystyried eu rhoi nhw i’r siop?

Drwy roi eich eitemau diangen byddwch yn cefnogi’r gwasanaethau y mae Hosbis Tŷ’r Eos yn eu darparu o Wrecsam, Sir y Fflint a Dwyrain Sir Ddinbych i’r Bermo a’r trefi ar y ffin.

O lyfrau a beiciau i deganau plant a nwyddau cartref, croesewir unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddefnyddio mwyach, ond a allai fod yn ddefnyddiol i rywun arall, yn y siop ailddefnyddio.

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam – siaradwch ag un o’r gweithwyr a fydd yn dangos i chi ble i adael yr eitemau yr hoffech eu rhoi.

Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r rhain, ond os ydym yn dewis ailddefnyddio pryd bynnag y gallwn, byddwn yn gwneud gwahaniaeth yn y frwydr yn erbyn plastigau untro.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i www.wrecsam.gov.uk/services/biniau-ac-ailgylchu

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn – Newyddion Cyngor Wrecsam

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch

TAGGED: ailgylchu, recycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Erthygl nesaf Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub. Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Mae cyfleoedd gwaith newydd wedi glanio – darllenwch ymlaen i ddysgu mwy!
Busnes ac addysg Gorffennaf 25, 2025
Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles
Busnes ac addysg Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 25, 2025
Plastic Free July - reusable water bottle
Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 25, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor Gorffennaf 25, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Free pre-loved school uniform shop opens in the Wellbeing Hub.
Busnes ac addysgDatgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim yn agor yn yr Hwb Lles

Gorffennaf 25, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam

Gorffennaf 25, 2025
Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell

Gorffennaf 24, 2025
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lleY cyngor

Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Gorffennaf 23, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English