Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb – benthyca clyfar, byw yn gynaliadwy!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb – benthyca clyfar, byw yn gynaliadwy!
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb – benthyca clyfar, byw yn gynaliadwy!

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 10, 2025 2:25 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Lend & Mend Ty Pawb logo
RHANNU

Pam prynu os gallwch fenthyg?

Cynnwys
  • Sut mae’n gweithio
  • Beth sydd ar gael?
  • “Lleihau gwastraff diangen”
  • Mwy na benthyca’n unig!
  • Pryd alla i ddod?

Ar Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb, gallwch gael mynediad i’r hyn sydd ei angen arnoch heb wario gormod. Mae’n ffordd gost-effeithiol ac ecogyfeillgar o gael yr eitemau sydd eu hangen arnoch, yn union pryd y mae eu hangen arnoch.

O beiriannau gwnïo i offer gwersylla, offer i gyflenwadau parti, mae yna ddigon o eitemau defnyddiol y gallwch eu llogi am gost fach (o’i gymharu â’r hyn y byddech chi’n ei dalu i brynu’r eitem newydd eich hun).

Beth bynnag yw’r tywydd, beth bynnag yw’r achlysur, byddwch chi’n dod o hyd i rywbeth i helpu i wneud y gorau o’r mis sydd i ddod.

Sut mae’n gweithio

Mae’n hawdd ymuno â Benthyca a Thwsio:

  • Cofrestrwch a phorwch ar-lein neu yn yr uned yn Nhŷ Pawb (angen prawf adnabod)
  • Archebwch yr eitem sydd ei hangen arnoch (am gost fach)
  • Casglwch hi o’r uned neu’r loceri dynodedig
  • Dychwelwch hi mewn pryd – syml!

Beth sydd ar gael?

Offer glanhau swmpus – Casglwch beiriant glanhau trylwyr heb orfod prynu offer drud y byddwch chi’n ei ddefnyddio unwaith! Rhentwch offer glanhau o ansawdd uchel pan fydd ei angen arnoch.

Citiau cerdded ac offer gwersylla Dug Caeredin – Angen offer ar gyfer antur? Mae citiau ar gael, perffaith ar gyfer gwibdeithiau neu deithiau Dug Caeredin. (Gofynnwch am gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer credydau Dug Caeredin o fewn yr Uned Benthyca a Thwsio).

Pecynnau parti a gemau – Cynllunio parti? Benthycwch becynnau parti hwyliog a gemau awyr agored – oherwydd dylai dathliadau fod yn gyffrous, nid yn ddrud!

“Lleihau gwastraff diangen”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae gan Benthyca a Thrwsio amrywiaeth o eitemau ar gael i’w llogi am gost fach, a all fod yn ddefnyddiol os oes angen i chi ddefnyddio rhywbeth am gyfnod byr o amser yn unig. Mae’r cynllun benthyca a dychwelyd yn helpu i leihau gwastraff diangen ac yn arbed gorfod talu pris llawn am rywbeth na fydd ei angen arnoch yn aml iawn.”

Mwy na benthyca’n unig!

Gyda chymorth trwy gyllid Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda Benthyg Cymru, Caffi Trwsio Cymru, Lend Engine, Refurbs a Groundwork Gogledd Cymru i gyflawni’r prosiect.

Mae Benthyca a Thrwsio yn ganolbwynt ar gyfer cynaliadwyedd a chreadigrwydd. Ymunwch â ni ar gyfer gweithdai uwchgylchu neu dewch i’r Caffi Atgyweirio i ddysgu sgiliau newydd, trwsio eitemau, a lleihau gwastraff.

Pryd alla i ddod?

Mae’r uned yn Nhŷ Pawb. Yr oriau agor yw dydd Mawrth i ddydd Gwener 11.30am i 2.30pm, a dydd Sadwrn 10.30am i 3.30pm.

Mae ar cau ar ddydd Llun a dydd Sul.

Darllenwch fwy: Lansio prosiect Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb! – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:DatgarboneiddiodecarbonisationTŷ Pawb
Rhannu
Erthygl flaenorol Green garden waste bin Dyw hi (dal) ddim yn rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd
Erthygl nesaf Mark Lewis Jones yw llywydd yr ŵyl Mark Lewis Jones yw llywydd yr ŵyl

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English